Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Manteision bod yn ddwyieithog

Manteision bod yn ddwyieithog


Summary (optional)
Ydych chi wedi ystyried addysg cyfrwng Cymraeg? Mae gennym gyfoeth o wybodaeth i’ch helpu wneud y penderfyniad pwysig yma.
start content

Pam dewis Addysg cyfrwng Cymraeg?


Gall addysg cyfrwng Cymraeg gynnig cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plentyn beth bynnag yw iaith y cartref.



Beth yw’r manteision bod yn ddwyieithog / amlieithog?

Mae llawer o fanteision o fod yn ddwyieithog / amlieithog.

Gall eich plentyn:

  • gyfathrebu’n gwbl rhugl a hyderus yn Saesneg a Chymraeg
  • wneud cystal, os nad gwell, yn Saesneg â phlant sy’n cael addysg Saesneg
  • gyflawni’n well mewn tasgau
  • ddysgu ieithoedd eraill yn haws
  • newid o’r ysgol gynradd i’r uwchradd yn llawer haws
  • fod yn rhan o’r gymuned ehangach ac yn rhoi hunaniaeth gadarn ac ymdeimlad o berthyn iddynt
  • gael profiad gyfoethog o ddiwylliant, hanes a hunaniaeth Cymru


Mae siarad dwy iaith yn

  • rhoi sgil arall i’w roi ar ffurflen gais
  • ddefnyddiol iawn yn y gweithle gan fod nifer cynyddol o swyddi yn nodi’r gallu i siarad Cymraeg fel sgil hanfodol neu dymunol
  • cefnogi cyflogwyr yng Nghymru i allu darparu gwasanaethau’n ddwyieithog mewn amrywiaeth o feysydd megis iechyd, addysg, hamdden, gofal plant, manwerthu a gwasanaethau cyhoeddus- galluogi pobl ddwyieithog i ennill ar gyfartelaedd 11% o gyflog ychwanegol


Ydy pob plentyn / disgybl yn gallu cael mynediad i Addysg gyfrwng Gymraeg yn Sir Conwy?

Mae yna ddarpariaeth Addysg cyfrwng Cymraeg o fewn cyrraedd pob plentyn ym mhob ardal o fewn Sir Conwy.

end content