Mae'r ddeddfwriaeth mewn perthynas â gwrychoedd uchel yn wahanol i fathau eraill o niwsans gan fod yna ofyniad bod y rhai yr effeithir arnynt gan wrychoedd uchel yn ceisio datrys y mater gyda'u cymydog yn y lle cyntaf. Mae'n bwysig cadw cofnodion llawn o'ch ymdrechion i ddatrys y sefyllfa a'r ymatebion a gewch gan eich cymdogion.
Os nad ydych yn gallu datrys y mater, gallwch wneud cwyn i'r Cyngor, ond efallai y bydd tâl os na fydd y cysylltiad cyntaf â pherchennog y gwrych yn datrys y broblem. Ar hyn o bryd mae CBS Conwy yn codi £320 i wneud cwyn.
http://www.planningportal.gov.uk/permission/commonprojects/highhedges/
https://www.gov.uk/government/collections/high-hedges