Os yw ci cymydog yn swnllyd, lle bo hynny'n bosibl, ceisiwch drafod y broblem gyda nhw. Efallai nad ydynt yn ymwybodol bod eu ci yn cyfarth ac o effeithiau'r sŵn. Bydd hyn yn aml yn datrys y mater ac mae hefyd yn helpu i gynnal perthynas dda gyda’ch cymydog.
Os nad yw hyn yn datrys y broblem neu os ydych yn teimlo na allwch fynd at eich cymydog, yna dylech gysylltu â ni i drafod y gŵyn ar eich rhan. Byddwn yn cysylltu â’r perchennog i ddechrau i roi gwybod iddynt am y gŵyn ac yn rhoi cyngor lle bo angen ar y rheolaethau/camau atal cŵn rhag cyfarth posibl. Yn ôl y gyfraith gall ci sy’n cyfarth fod yn niwsans sŵn. Gellir mynd â’r perchennog i'r llys os nad yw'n gwneud dim i atal y niwsans.