Ar 20 Hydref 2017, fel gofyniad Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, daeth Gorchmynion Rheoli Cŵn y Cyngor yn un Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus. Roedd y newid hwn yn digwydd yn awtomatig mewn cyfraith.
Mae’r Cyngor nawr yn adolygu'r rheolau cŵn hyn, ac felly’n ymgynghori ar y bwriad i ddiwygio’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus fydd yn para am 3 blynedd, yna caiff ei adolygu.
Mae’r cynigion yn anelu i greu cydbwysedd fel bod perchnogion cŵn yn gallu mwynhau a sicrhau lles eu cŵn, a chaniatáu eraill i fwynhau mannau cyhoeddus ar yr un pryd, heb ymyrraeth nac effaith gan gŵn a pherchnogaeth cŵn anghyfrifol.
Mae’r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben ac mae’r ymatebion wedi eu dadansoddi ac maent yn cael eu dangos yn y ddogfen isod.
Mae’r dogfennau ar y wefan yn darparu manylion ar y cynigion. Yn dilyn yr ymgynghoriad a chyfnod ystyried yr ymatebion, bydd unrhyw gamau’n cael eu hystyried yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Craffu Economi a Lle a’r Cabinet.
Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 22/01/2018 a daeth i ben ar 23/02/2018.
Gwefannau allanol:
Gweler hefyd: