Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gorchymyn Gwahardd Cŵn 2012


Summary (optional)
Mae'n drosedd gadael eich ci fynd i ardal Gwahardd Cŵn dynodedig. Gall methu â chydymffurfio â Gorchymyn Gwahardd Cŵn 2012 arwain at gyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig.
start content

Yr ardaloedd NAD YDYCH YN CAEL mynd â'ch ci iddynt yw:

Mewn Parciau a Mannau Agored

Dir mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn berchen arno ac / neu yn ei gynnal lle mae arwyddion 'Gwahardd Cŵn' wedi'u harddangos.

  • Pob Lle Chwarae Plant a Ffensiwyd 
  • Ardaloedd Gemau Amlddefnydd 
  • Cyrtiau Tennis 
  • Parciau Sglefrio 
  • Lawntiau Fowlio 
  • Caeau ynghlwm wrth ysgolion, gan gynnwys caeau cymunedol a ddefnyddir gan ysgolion ar gyfer chwaraeon. 
  • Ardaloedd chwarae meysydd chwaraeon a farciwyd (rhaid bod ardal y cae wedi'i nodi'n glir a'i diffinio gan linell benodol). 
  • Cae Chwarae Betws-yn-Rhos 
  • Caeau Chwarae Capel Garmon 
  • Cae Pêl-droed Cae Ffwt, Glan Conwy 
  • Caeau Chwarae Gyffin 
  • Ardal Hamdden Ffordd Gower, Trefriw 
  • Cae Chwarae Maes Aled, Llansannan                                                         
  • llain bêl-droed, lawnt fowlio a'r llecyn gemau amlddefnydd, Llansannan 
  • Traethau* (gan gynnwys glan y môr, y blaendraeth ac unrhyw lethr neu risiau sy'n arwain at y traethau) fel a ganlyn:

Ar y Traeth

Os nad yw rhan o’r traeth wedi ei gynnwys yn y rhestr isod, mae croeso i chi fynd yno a gallwch dynnu tennyn y ci wedi i chi gyrraedd.

* (gan gynnwys glan y môr, y blaendraeth ac unrhyw lethr neu risiau sy’n arwain at y traethau) fel a ganlyn:

Rhwng 1 Mai a 30 Medi:

  • Traeth Llandrillo-yn-Rhos (rhwng Rhos Point a phen dwyreiniol Promenâd Cayley) 
  • Traeth Bae Colwyn (rhwng Pier Victoria a'r fynedfa i Barc Eirias). 
  • Traeth Pensarn (rhwng y polion pren sefydlog wrth y caffi a'r polion concrit sefydlog ar ben gorllewinol y promenâd). 
  • Traeth Bae Cinmel (rhwng Dinas Avenue, Bae Cinmel a Ffordd y Twyni, Tywyn) 
  • Traeth y Gogledd Llandudno (o Bier Llandudno i Clarence Road) 
  • Traeth Penmorfa Llandudno (rhwng y ddau grwyn cerrig) 
  • Traeth Penmaenmawr (o ochr ddwyreiniol y caffi i lithrfa'r clwb hwylio) 
  • Traeth Llanfairfechan (rhwng y 2 lithrfa sy'n arwain o'r promenâd i'r Marc Dŵr Isel)   

Dwy'r Flwyddyn:

  • Y Traeth Bach Tywodlyd yn Rhos Point, Llandrillo-yn-Rhos

 * Mae’r cyfyngiadau traeth hyn yn yr un ardaloedd â’r is-ddeddfau blaenorol, heblaw am Fae Colwyn lle bo ardal y traeth yn gulach ac mae’r cyfnod wedi’i leihau o fis Mawrth  - Hydref i fis Mai - Medi.

end content