Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Problemau Amgylcheddol Materion Cŵn Gorchmynion Rheoli Cŵn Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus Arfaethedig Rheoli Cŵn 2023

Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus Arfaethedig Rheoli Cŵn 2023


Summary (optional)
start content

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Rhowch eich barn am y posibilrwydd o  ymestyn ac amrywio’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn 2020 presennol sydd ar waith i fynd i’r afael â materion sy’n codi drwy berchnogaeth anghyfrifol ar gŵn.

Cefndir

Cyflwynodd y Cyngor Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn yn 2020 i helpu i fynd i’r afael â pherchnogaeth anghyfrifol ar gŵn. Roedd y Gorchymyn yn destun dau ymgynghoriad cyhoeddus oedd yn dangos cefnogaeth gryf gan y cyhoedd i’r cynigion (PSPO-Ail-Ymgynghoriad-Cyhoeddus-Nodiadau Eglurhad-18-5-20 (conwy.gov.uk)) a chyflwynwyd y Gorchymyn yn gwneud y canlynol yn drosedd:

  • Methu â chodi baw ci ar unwaith.
  • Methu â chario dull priodol i gasglu baw ci.
  • Caniatáu i gi fynd ar dir ble mae cŵn wedi eu heithrio drwy’r flwyddyn; a
  • Caniatáu i gi fynd ar dir ble mae cŵn wedi eu heithrio’n dymhorol
  • Peidio â chadw ci ar dennyn mewn ardal ddynodedig
  • Peidio â rhoi a chadw ci ar dennyn pan fyddant yn derbyn cyfarwyddyd i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig.

Gellir cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig (dirwy) o £100 i berchnogion os byddant yn gwneud unrhyw un o’r rhain.

Mae cyflwyno’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus 2020 wedi helpu i:

  • greu mannau awyr agored mwy diogel a chroesawgar i berchnogon cŵn a phobl heb gŵn;
  • mynd i’r afael â phroblemau baw cŵn.

Beth mae’r Cyngor yn ei gynnig nawr

Er gwaethaf y gwelliannau hyn, yn anffodus mae baw cŵn a materion eraill cysylltiedig â chŵn yn parhau. Felly, mae’r Cyngor yn cynnig ymestyn ac amrywio’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus Rheoli Cŵn 2020 am 3 blynedd i greu’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus Rheoli Cŵn 2023 i helpu i fynd i’r afael â pherchnogion anghyfrifol ar gŵn.


Mae’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus presennol yn rhedeg tan Hydref 2023. Os na fydd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus yn cael ei ymestyn, bydd yn dod i ben ar 21 Hydref 2023, ac ni fydd unrhyw gyfyngiadau gorfodadwy cyfreithiol ar gŵn yn Sir Conwy. Mae’r Cyngor yn ei ystyried yn rhesymol i gael rheoliadau cŵn penodol ar waith yn y sir, ac felly'n bwriadu ymestyn ac amrywio’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus presennol.

Dweud eich dweud

Dymuna’r Cyngor gael eich barn ar ymestyn ac amrywio’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus Rheoli Cŵn.

Cliciwch yma i lenwi'r ymgynghoriad ar-lein

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg rhwng 6 Medi 2023 a hanner nos ar 4 Hydref 2023.

Cyfeiriad ar gyfer copïau papur:
Coed Pella
Ffordd Conwy
Bae Colwyn
LL29 7AZ

Ffôn: 01492 574000
Ebost: YmgynhoriadGAAC@conwy.gov.uk

Y camau nesaf

Bydd ymatebion yn cael eu hystyried ac adroddir ar ganfyddiadau i’r Cyngor drwy’r broses ddemocrataidd yn ystod yr Hydref/Gaeaf 2023, pan fydd y Cyngor yn gwneud penderfyniad i gadarnhau cynnwys y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus 2023 neu fel arall. Os cadarnheir, byddai’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus newydd, gan gynnwys unrhyw newidiadau yn cael ei gyflwyno ym mis Hydref 2023. Byddai’n cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor, tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag ar fyrddau gwybodaeth ddigidol ac yn lleol ar draws y sir ble mae amrywiaethau wedi digwydd mewn rheoliadau cŵn.

Gweld y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus Cŵn 2020 presennol yn Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus Cŵn FDE (conwy.gov.uk)

Gweld y Mapiau Gorchymyn Cŵn mewn Mannau Agored Cyhoeddus 2020 presennol (conwy.gov.uk)

Gweld y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus Arfaethedig Rheoli Cŵn 2023 dolen (conwy.gov.uk)

Gweld y Mapiau Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus Arfaethedig Rheoli Cŵn 2023 (conwy.gov.uk)

end content