Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cŵn ar goll neu ar grwydr


Summary (optional)
Rhowch wybod am gi ar goll neu ar grwydr
start content

Mae'r Cyngor yn cadw cofrestr o gŵn sydd ar goll neu y daethpwyd o hyd iddynt.

Cŵn Crwydr

Mae ci sy’n crwydro yn un sydd heb ei berchennog mewn man cyhoeddus (neu fan preifat lle nad oes caniatâd iddo).

Os byddwch yn dod o hyd i gi crwydr, dylech:

  • Weld a yw’r ci yn gwisgo tag ac os felly cysylltwch â’r perchennog.
  • Cysylltu â’r Cyngor

Os byddwch yn dod o hyd i gi crwydr yn ystod oriau swyddfa, cysylltwch â ni’n uniongyrchol ar: 01492 575222.

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddychwelyd y ci i’w berchennog. Os ydym ni’n aflwyddiannus, byddwn yn cymryd y ci i’n cytiau cŵn penodedig yn Nant y Corn, Llan San Siôr, Abergele am 7 niwrnod o leiaf.

Os nad yw'r ci yn cael ei gasglu o fewn y cyfnod hwn yna bydd y ci yn cael ei ail-gartrefu. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ac mewn achosion prin, efallai bydd y ci yn cael ei roi i gysgu. 

Os byddwch yn dod o hyd i gi crwydr y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch: 0300 123 3079.

Cewch gynnig un o’r dewisiadau canlynol:

  • Drwy drefniant ymlaen llaw drwy'r gwasanaeth y tu allan i oriau, gallwch fynd â’r ci i'n cytiau cŵn penodol yn Nant y Corn, Llan San Siôr, Abergele.
  • Fel arall, efallai y gofynnir i chi ddal gafael ar y ci tan y diwrnod gwaith nesaf, pan fydd un o swyddogion y Cyngor yn ei gasglu.

PEIDIWCH â chysylltu neu fynd â chi crwydr i'r cytiau cŵn heb gysylltu yn gyntaf â'r gwasanaeth y tu allan i oriau gan y byddwch yn cael eich gwrthod.

Cŵn ar goll

Os ydych wedi colli eich ci, dylech gysylltu â ni i weld os yw wedi cael ei adrodd neu ei godi.

Yn ystod oriau swyddfa

  • Dydd Llun i Ddydd Iau: 9.00am i 5.00pm
  • Dydd Gwener: 9.00am i 4.45pm
  • Ffôn: 01492 575222

Tu allan i oriau swyddfa 

Dylech ffonio ein gwasanaeth y tu allan i oriau ar: 0300 123 3079.


Cytiau Cŵn Nant y Corn

Gallwch ffonio ein cytiau cŵn penodedig hefyd ar : (01745) 824646

  • Dydd Llun i Ddydd Gwener: 10.00am i 4.30pm
  • Dydd Sadwrn: 10.00am i 2.00pm
  • Dydd Sul: ar gau


Cyfeiriad: Nant y Corn, Ffordd Llan San Siôr, Abergele, LL22 9BN


Ffioedd Rheoli Cŵn 2023/2024

Wrth hawlio eich ci, nodwch y bydd yn rhaid i chi dalu ffi am gostau casglu a chadw eich ci. Mae'r ffi hon yn cynnwys Swm Statudol Rhagnodedig (a osodwyd gan y Llywodraeth).

Efallai bydd angen i chi dalu costau ychwanegol y milfeddyg hefyd.

Mae ffi ychwanegol o £30 os yw eich ci yn cael ei gymryd i’r cytiau tu allan i oriau.

DiwrnodPris

Ffi Statudol (gan gynnwys casglu)

£75.00

Ffi cadw ddyddiol

£15.00

Cyfanswm diwrnod 1

£90.00

Cyfanswm diwrnod 2

£105.00

Cyfanswm diwrnod 3

£120.00

Cyfanswm diwrnod 4

£135.00

Cyfanswm diwrnod 5

£150.00

Cyfanswm diwrnod 6

£165.00

Cyfanswm diwrnod 7

£180.00

Cyfanswm diwrnod 8

£190.00

Ffioedd tu allan i oriau

£30.00

 

 


Methu cael coler ci

Mae Gorchymyn Rheoli Cŵn 1992 yn pennu bod pob ci, tra byddant mewn lle cyhoeddus, yn gorfod gwisgo coler a thag adnabod ag enw a chyfeiriad y perchennog arno. Os oes gan eich ci goler a thag, gwneir pob ymdrech i ddychwelyd y ci gartref heb orfod iddo fynd i gytiau cŵn a pheri costau.

Mae methu cael coler a thag ar eich ci yn drosedd. Gall hyn arwain at achos cyfreithiol yn eich erbyn a gallech gael dirwy o hyd at £5000.

Microsglodynnu

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud?

Mae’n orfodol i gi gael ei ficrosglodynnu a bod manylion diweddar yn cael eu cadw gan ddarparwr cronfa ddata wedi’i gymeradwyo. Mae hyn yn cael ei gynnwys yn Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015.

Mae’n rhaid i berchnogion cŵn sicrhau:

  • Bod eu ci wedi’i ficrosglodynnu gan filfeddyg proffesiynol neu sglodynwr sydd wedi derbyn hyfforddiant a gymeradwywyd gan y llywodraeth.
  • Bod gan gŵn bach ficrosglodyn a’u bod wedi’u cofrestru gyda chronfa ddata microsglodion a gymeradwywyd cyn eu bod yn 8 wythnos oed
  • Bod y bridiwr wedi rhoi microsglodyn yn y ci a’i fod wedi’i gofrestru â chronfa ddata microsglodion a gymeradwywyd cyn mynd â’r ci adref. Mae’n rhaid i’r bridiwr ddarparu’r gwaith papur sy’n dangos hyn - gallant wynebu camau gorfodi os daw’n amlwg nes ymlaen nad oes microsglodyn gan y ci.

Ar ôl rhoi microsglodyn mewn ci a’i gofrestru ar gronfa ddata microsglodion, mae cyfrifoldeb parhaus ar berchennog y ci i:

  • Ddiweddaru unrhyw newid i’r manylion â chronfa ddata’r microsglodyn. Gallwch wynebu dirwyo o hyd at £5000 os nad ydych yn cadw cofnodion diweddar.
  • Sicrhau fod eich ci’n gwisgo tag coler er mwyn ei adnabod gyda’ch manylion cyswllt presennol arno. Mae cynnwys eich rhif ffôn yn ddewisol.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content