Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhoi gwybod am faw ci


Summary (optional)
Nid yn unig bod baw ci yn annifyr, mae hefyd yn beryglus i iechyd. Mae'n rhaid i berchnogion cŵn lanhau baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus. Mae'r rhain yn cynnwys parciau, ymylon ffyrdd, lleoedd amwynder, palmentydd, ffyrdd a thraethau. Gall methu â gwneud hyn arwain at gosb benodedig o £100 neu ddirwy hyd at £1,000.
start content

 

Os hoffech frwydro yn erbyn baw cŵn yn eich cymuned, riportiwch y troseddwyr I’r Tim Gorfodi Amgylcheddol yn Mwrdeistref Sirol Conwy, gan ddarparu cymaint o’r wybodaeth ganlynol â phosibl:

  • Amseroedd y mae’r troseddau’n cael eu cyflawni
  • Lleoliadau lle y cyflawnir y troseddau
  • Disgrifiad o’r ci
  • Disgrifiad o’r perchennog neu’r unigolyn â chyfrifoldeb
  • Os yw perchennog y ci yn defnyddio car, disgrifiad o’r car a’r rhif cofrestru

Bydd y Swyddogion Gorfodi Amgylcheddol yn defnyddio’r manylion hyn I dargedu eu patrolau yn fwy effeithiol, felly po fwyaf o wybodaeth y rhowch chi I ni, y mwyaf tebygol y bydd hi y bydd y troseddwyr yn cael eu dal

Ardaloedd â phroblem o ran baw cŵn

Ardaloedd â phroblem o ran baw cŵn yw ardaloedd sy'n destun mwy o weithgaredd gorfodi wrth ddarparu presenoldeb gorfodi gweladwy i atal troseddau rhag digwydd.

Gorchymyn Baeddu Tir gan Gŵn (Bwrdeistref Sirol Conwy)

Mewn mannau ble mae baw cŵn yn broblem fawr, bydd arwyddion penodol yn cael eu codi i roi gwybod i berchnogion cŵn o statws ardaloedd ac i apelio i drigolion yr ardal i roi gwybod am y rhai sy'n gyfrifol am y drosedd ffiaidd.

Cysylltwch â ni os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am faterion cŵn:

Gwasanaethau Rheoleiddio
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN

Rhif Ffôn:  01492 575222

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content