Targedu Ardaloedd
Er mwyn cryfhau ymdrechion i daclo baw cŵn mewn ardaloedd penodol lle caiff ei ystyried yn broblem fawr, bydd arwyddion yn cael eu gosod yn yr ardal a bydd llythyrau’n cael eu hanfon at breswylwyr yn galw arnynt i riportio’r bobl sy’n gyfrifol.
Hyrwyddo’r neges
Bydd cerbydau’r Cyngor hefyd yn arddangos arwyddion gyda rhif ffôn a chyfeiriad e-bost penodol y gall y cyhoedd eu defnyddio i gysylltu â’r Cyngor i roi gwybod yn gyfrinachol am y rheiny sy’n troseddu.
Gorfodaeth
Byddwn yn parhau i gymryd dull rhagweithiol tuag at orfodaeth troseddau amgylcheddol. Bydd unrhyw un sy’n cael eu dal yn peidio glanhau ar ôl eu cŵn mewn man cyhoeddus yn wynebu Rhybudd Cosb Benodol o £100. Bydd methu â thalu’r Rhybudd yn golygu erlyniad gyda dirwy uchafswm o £1000. Mae hyn yr un fath ar gyfer y rheiny sy’n taflu sbwriel.
Riportio Troseddwyr
Os hoffech wneud safiad yn erbyn baw cŵn yn eich cymuned, rhowch wybod am droseddwyr wrth ein Tîm Gorfodaeth Amgylcheddol, gan roi cymaint o’r wybodaeth ganlynol ag y medrwch.
- Yr amseroedd mae’r troseddau’n cael eu cyflawni
- Y lleoliadau mae’r troseddau’n cael eu cyflawni
- Disgrifiad o’r ci
- Disgrifiad o’r perchennog neu’r person sy’n gyfrifol am y ci
- Os yw perchennog y ci yn defnyddio car, disgrifiad o’r car a’r rhif cofrestru
Sut gallwch riportio cŵn yn baeddu:
Rhowch wybod amdano ar-lein yma
Ffôn: 08000 934 364