Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Tai Fforddiadwy Cofrestr Tai Fforddiadwy – Tai Teg

Cofrestr Tai Fforddiadwy – Tai Teg


Summary (optional)
Lansiwyd cofrestr Tai Teg mewn partneriaeth rhwng cymdeithasau tai’r rhanbarth, yr awdurdodau lleol, ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol er mwyn symleiddio’r ffordd y mae pobl yn gwneud cais am gartref fforddiadwy.
start content

Mae nifer o gynlluniau ar gael ar gyfer y rheini sydd mewn cyflogaeth ac sy’n ennill rhwng £16,000 a £45,000, gyda rhai opsiynau ar gyfer y rhai sy’n ennill hyd at £60,000.

Grŵp Cynefin sy’n arwain y prosiect. Yn ogystal â Grŵp Cynefin, mae partneriaid eraill gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a saith awdurdod lleol : Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Powys, Cyngor Wrecsam a Chyngor Sir Ynys Môn.

Y cymdeithasau tai eraill sy’n ymwneud â’r prosiect yw Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Grŵp Tai Pennaf, Tai Gogledd Cymru, Tai Wales & West, a Cartrefi Conwy.

Mae cartref fforddiadwy yn eiddo a ddarperir am bris llai na gwerth y farchnad, naill ai i’w rentu neu brynu. Nid yw Tai Teg yn darparu tai cymdeithasol, a chynghorir pobl i barhau i ddefnyddio cofrestr tai y cyngor perthnasol yn eu hardal.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru diddordeb mewn cartref, ewch i’r wefan www.taiteg.org.uk.

end content