Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Cartrefi Gwag Grantiau Eiddo Gwag i Landlordiaid

Grantiau Eiddo Gwag i Landlordiaid


Summary (optional)
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am gynllun grant newydd i berchnogion cartrefi gwag sydd angen eu hatgyweirio
start content

Os ydych chi’n berchen ar eiddo sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu’n hirach, neu os ydych chi’n ystyried prynu eiddo sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu’n hirach, fe allech chi fod yn gymwys am grant.

Byddwn yn ystyried grant o hyd at £20,000 fesul eiddo os yw angen gwelliannau neu addasiadau i sicrhau ei fod yn cyrraedd safonau cyfredol ar gyfer eiddo rhent.

Bydd y grant yn 70% o gost y gwaith a gytunwyd, a bydd y perchennog yn gyfrifol am y 30% arall o’r costau.

Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau, rhaid i chi wneud yr eiddo ar gael i'r Cyngor am 5 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, byddwn yn defnyddio’r eiddo i helpu i ailgartrefu pobl sydd wedi dod yn ddigartref heb unrhyw fai arnyn nhw.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Strategaeth Tai ar:

E-bost: taigwag@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 574235 or 01492 574633

end content