Mae’r cynllun, sy’n cael ei ariannu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig hyd at £25,000 i brynwyr tro cyntaf ar gyfer gwaith angenrheidiol i sicrhau bod yr eiddo'n cyrraedd safon dderbyniol. Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid bod yr eiddo o fewn ffiniau'r Parc Cenedlaethol yng Nghonwy, wedi bod yn wag ers o leiaf 6 mis ac o fewn bandiau prisio Treth y Cyngor A, B neu C.
Mae’r cynllun ar agor i brynwyr tro cyntaf sy’n awyddus i brynu eiddo gwag neu sydd wedi prynu un ond heb symud i mewn gan fod angen gwneud gwaith. Yn ogystal, mae’n rhaid bod gan yr ymgeiswyr gysylltiad ag ardal y Parc Cenedlaethol yng Nghonwy.
Cwestiynau Cyffredin (Ffeil PDF)
Taflen Wybodaeth (Ffeil PDF)