Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Cartrefi Gwag Trefnu Gwaith Adeiladu

Trefnu Gwaith Adeiladu


Summary (optional)
Mae materion allweddol i’w hystyried pan fyddwch yn cynllunio ar gyfer gwaith adnewyddu.
start content

Cyllidebu

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfrifo cyllideb cyn dechrau ailwampio eiddo gwag. Mae'r Asiantaeth Tai Gwag yn awgrymu cyllidebu ar gyfer swm wrth gefn o 10% o leiaf, ac os yw'r eiddo yn adfeiliedig iawn, dylai fod yn agosach at 25%.

Yswiriant

Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant i drafod y gwaith sydd wedi’i gynllunio a’r amserlenni i wneud yn siŵr bod gennych y lefel gywir o yswiriant  

Cyfyngiadau Cyfreithiol

Mae syniadau llawn dychymyg ar gyfer ailddatblygu eiddo gwag yn dda, ond os na fydd yn cael caniatâd cynllunio neu ganiatâd rheoliadau adeiladu, bydd angen i chi feddwl eto. Efallai bydd angen i chi ystyried os yw’r eiddo yn Adeilad Rhestredig neu mewn ardal gadwraeth.

Dewis adeiladwr

Gall y gwaith adeiladu fod yn ddrud a gall fod yn llawn straen felly mae’n bwysig dewis yr adeiladwr cywir i weithio i chi. Nid dim ond y 'cowbois' anonest rydych angen eu hosgoi, nid yw rhai masnachwyr gonest a diffuant iawn yn addas i wneud y gwaith chwaith.

Gallwch siarad â’ch teulu neu ffrindiau am argymhellion ac mae nifer o wefannau ar gael:

end content