Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Cartrefi Gwag Gwerthu Cartref Gwag

Gwerthu Cartref Gwag


Summary (optional)
Sut i werthu cartref gwag, a beth i’w ystyried wrth werthu cartref gwag.
start content

Mewn nifer o ffyrdd nid yw gwerthu tŷ gwag yn wahanol i werthu unrhyw fath arall o eiddo - ond os yw mewn cyflwr gwael, mae’n bosibl y bydd yn anoddach i brynwr posibl gael morgais i’w brynu.

Asiantaethau Tai

Efallai byddwch am werthu’r eiddo’n annibynnol neu drwy asiantaeth tai. 

Nid oes unrhyw ymrwymiad i werthu pan fyddwch yn prisio gwerth y tŷ ac awgrymir eich bod yn cael tri phris er mwyn sicrhau darlun llawn. Wrth werthu drwy asiantaeth dai bydd gofyn i chi arwyddo cytundeb cyfreithiol - sicrhewch eich bod yn ei ddarllen yn ofalus ac yn ei ddeall. Cofiwch ofyn a fydd dirwy diddymu a beth yw hyd y cytundeb.

Ceir arweiniad pellach ar ddewis asiant yma:


Mae gan y cyrff proffesiynol canlynol gyfleusterau chwilio ar-lein i ddod o hyd i asiantau yn eich ardal:


Os byddwch yn penderfynu rhoi eich eiddo ar y farchnad, cofiwch gall gymryd o sawl wythnos hyd at sawl mis i werthu os oes cadwyn. Felly, efallai bydd diddordeb gennych mewn ystyried gwerthu mewn arwerthiant.

Arwerthiannau

Mae gan arwerthiannau gynulleidfa gymysg o ddatblygwyr, buddsoddwyr, landlordiaid portffolio a phrynwyr arian parod. Gall y ffaith bod yr eiddo’n wag fod o ddiddordeb mawr i’r mathau hyn o brynwyr.

Gall gwerthu mewn arwerthiant fod â’i fanteision:.

  • Fel tawelwch meddwl, gallwch osod isafswm pris, er mwyn sicrhau bod isafswm yn cael ei sicrhau.
  • Dim angen cynnal trafodaethau pellach - rhaid i brynwyr gynnig ar y diwrnod neu golli’r eiddo
  • Sicrwydd o werthiant di amod - pan fo’r morthwyl yn taro’r bloc, mae cytundeb cyfreithiol rhwng y prynwr a’r gwerthwr.

Treth Enillion Cyfalaf

Bydd angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf os ydych yn gwerthu neu’n rhoi ased i ffwrdd sydd wedi cynyddu mewn gwerth.

Am ragor o wybodaeth am Dreth Enillion Cyfalaf ewch i wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (Saesneg).

Asiantau Arbenigol

Cadwch lygad am am asiantau tai sy’n benodol yn marchnata eiddo i ddatblygwyr. Gallech hysbysebu drwy asiantaeth plot hunan-adeiladu sy’n hysbysebu eiddo i’r rhai hynny sydd am eu hadnewyddu neu eu hailddatblygu.

Dyma rhai gwefannau gallwch eu defnyddio:


Mwy o wybodaeth

end content