Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Datblygu Safleoedd Ymhellach

Datblygu Safleoedd Ymhellach


Summary (optional)
start content

Dan ofynion Deddf Tai 2004 a Chylchlythyr y Swyddfa Gymreig 30/2007 ‘Cynllunio ar gyfer Safleoedd Carafanau Sipsiwn a Theithwyr’, mae’n rhaid i holl awdurdodau lleol Cymru ganfod anghenion Tai Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardaloedd a sicrhau darpariaeth ar gyfer unrhyw anghenion a nodir.

Ni wnaeth Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr 2017 nodi unrhyw angen brys am leiniau preswyl ac mae’n nodi angen safle Tramwy ar gyfer 7 llain yng Nghonwy.

Yn 2016 cafodd safle preswyl newydd ei ddatblygu yn Bangor Road, Conwy i ddiwallu'r anghenion a nodwyd yn asesiad 2013. O ran y safle tramwy, fel cam dechreuol wrth ganfod safleoedd posibl, bydd CBSC yn 'galw am safleoedd Sipsiwn a Theithwyr’ cyn hir, lle bydd yn gofyn i dirfeddianwyr, asiantau a’r cyhoedd awgrymu safleoedd posibl i’w hystyried. Yna, bydd y Cyngor yn ystyried yr holl awgrymiadau ac yn asesu addasrwydd y safleoedd gyda’r bwriad o ganfod a cheisio caniatâd cynllunio ar gyfer safle addas.

end content