- Ydych chi’n Sipsi, aelod o Sioe Deithiol neu’n Deithiwr?
- Ydych chi’n byw yn Sir Conwy neu’n aros yma?
- Ydych chi’n ei chael yn anodd dod o hyd i’r lleoedd iawn i fyw neu aros yn Sir Conwy?
Os ydych gallwch gymryd rhan mewn arolwg newydd a fydd yn ein helpu i asesu eich anghenion, drwy gysylltu ag ORS (Opinion Research Services) sy’n cynnal yr arolwg ar ran y Cyngor.
Mae’n rhaid i’r Cyngor gynnal Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr o’r newydd er mwyn asesu anghenion teuluoedd Sipsiwn, aelodau o Sioeau Teithiol a Theithwyr yn Sir Conwy am lety yn awr ac yn y dyfodol. Unwaith y cwblheir yr asesiad a bod Llywodraeth Cymru yn ei gymeradwyo, bydd yn disodli’r un blaenorol a gymeradwywyd yn 2017.
Mae’r Cyngor yn awyddus bod unrhyw un sy’n ystyried ei hun yn aelod o’r gymuned Sipsiwn, yn aelod o Sioe Deithiol neu’n Deithiwr yn cael cyfle i gymryd rhan yn yr arolwg er mwyn sicrhau yr asesir eu hanghenion am lety yn awr ac yn y dyfodol. Mae hynny’n cynnwys yr angen am lety preswyl yn ogystal â’r angen am safleoedd i deuluoedd sy’n teithio drwy Sir Conwy. Estynnir y gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg i bob aelod o’r cymunedau a enwir uchod, p’un a ydynt yn byw mewn carafán neu drelar yn y dull traddodiadol neu’n byw mewn llety brics a mortar ar hyn o bryd.
Os hoffech chi gymryd rhan yn yr arolwg, neu os ydych chi’n adnabod rhywun y dylid eu gwahodd i gymryd rhan, cysylltwch â thîm yr arolwg:
Cysylltwch â: Michael Bayliss
Ffôn: 07471 267095 neu 01792 535300
Ebost: Michael.Bayliss@ors.org.uk