Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwersylloedd Diawdurdod


Summary (optional)
start content

Ystyr gwersylla diawdurdod yw pan fo unigolyn neu grŵp o unigolion gyda cherbydau’n symud i ddarn o dir nad ydynt yn berchen arno, ac yn gwneud hynny gyda’r bwriad o breswylio ar y tir heb ganiatâd y perchennog.

Mae’n bwysig nodi bod Deddf Tai (Cymru) 2014 (a Chylchlythyr Swyddfa Cymru 30/2007 ‘Cynllunio ar gyfer Safleoedd Carafanau Sipsiwn a Theithwyr’) yn mynnu bod holl awdurdodau lleol Cymru yn nodi anghenion tai Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardaloedd ac yn darparu ar gyfer unrhyw anghenion a nodir.

Yn unol â’r rhwymedigaethau hyn, mae ein Protocol Gwersylloedd Diawdurdod (gweler y ddolen isod) yn amlinellu’r 87 o gamau a gaiff eu cymryd gan ein tîm Strategaeth Tai pan fyddwn yn derbyn adroddiadau am wersylloedd diawdurdod. Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau fod y camau cywir yn cael eu cymryd i fodloni anghenion arbennig Sipsiwn a Theithwyr, gan barchu hawliau a phryderon bob unigolyn cysylltiedig.

Os hoffech chi roi gwybod am achos o wersylla diawdurdod, dilynwch y ddolen isod.



I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • James Harland, Rheolwr Polisi Cynllunio Strategol ar (01492) 575180
  • Tîm Strategaeth Tai (01492) 574642
end content