Mae’n ofyniad dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 fod Cynghorau yn cynnal adolygiad o lefelau a rhesymau dros ddigartrefedd yn eu Sir bob 4 mlynedd.
Mae’r adolygiad yn edrych yn fanwl ar bwy sy’n agored i ddigartrefedd; y gwasanaethau sydd ar gael iddynt, a pha mor dda mae’r gwasanaethau yn diwallu eu hanghenion, nawr ac yn y dyfodol.
Mae’r adolygiad yn llywio cynllunio gwasanaethau yng Nghonwy. Y brif flaenoriaeth yw atal digartrefedd lle bo’n bosibl.
Mae fersiwn wedi’i hargraffu o’r adroddiad llawn ar gael i’w harchwilio yn unrhyw Swyddfa’r Cyngor trwy drefniant. Cysylltwch â:
Strategaeth Tai
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
strategaethtai@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 576274