Mae prinder tai fforddiadwy yn bygwth cynaladwyedd cymdeithasol ac economaidd llawer o gymunedau gwledig.
Beth ydi Galluogwr Tai Gwledig?
Mae Galluogwyr Tai Gwledig yn gweithio gyda chymunedau gwledig yn darparu cyngor a chefnogaeth annibynnol, gweithredu fel hwylusydd a'u helpu trwy'r broses gymhleth o ddarparu tai fforddiadwy. Mae'r Galluogwr Tai Gwledig yn gweithio gyda Chynghorau Cymuned, tirfeddianwyr lleol, Swyddogion Cynllunio, Parciau Cenedlaethol, Cymdeithasau Tai ac unigolion a sefydliadau perthnasol eraill, yn helpu i ganfod atebion ymarferol i ddiwallu anghenion tai mewn ardaloedd gwledig.
Wedi'i ariannu'n bennaf gan Lywodraeth Cymru, mae Galluogwr Tai Gwledig Siroedd Conwy a Dinbych yn gweithio ar draws ardaloedd gwledig y ddwy sir.
Am fwy o wybodaeth ymwelwch â https://www.grwpcynefin.org/cy/eich-cymuned/rural-housing-enablers/