Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Gwybodaeth i Landlordiaid Asiantaeth Gosod Tai HAWS

Asiantaeth Gosod Tai HAWS


Summary (optional)
HAWS: Asiantaeth Gosod Tai a Landlord, Gogledd Cymru.
start content

Mae profiad HAWS fel landlord yn golygu y gallant reoli portffolios o unrhyw faint a gallant eich cynghori chi ar eich hawliau a’ch cyfrifoldebau fel landlord a sut i reoli risg cystal â phosibl. Maent yn anelu i roi tawelwch meddwl i chi a’ch tenantiaid bod eich eiddo yn y dwylo gorau.

Mae HAWS yn awyddus i gadw mewn cysylltiad gyda landlordiaid yn rheolaidd. Maent yn cynnal cyfarfodydd i’w landlordiaid i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar yr hyn sy’n mynd ymlaen yn y byd gosod tai ac maent yn mynychu fforwm landlordiaid lleol Sir Conwy a gynhelir 3 gwaith y flwyddyn. 

Mae gwasanaethau HAWS wedi eu rhestru isod:

  • Gosod yn unig
  • Gwasanaeth a Reolir yn Llawn
  • Casglu Rhent
  • Eiddo â Thenantiaid
  • Gwasanaeth Prydles
  • Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau; mae gan eiddo a reolir yn llawn fynediad i wasanaeth y tu allan i oriau HAWS.
  • Mae galwadau yn cael eu hateb gan staff HAWS i sicrhau fod y broblem yn derbyn sylw yn effeithiol o’r dechrau i’r diwedd.
  • Gwasanaeth Trwsio a Chynnal a Chadw – mae gan HAWS fynediad i 30 o grefftwyr a hyfforddwyd yn llawn gydag yswiriant gan gynnwys peirianwyr nwy, trydanwyr, seiri coed a phlastrwyr.

 
Mae manylion llawn ar gael yn eu pecyn landlord a gan eu tîm. Cysylltwch â HAWS am ragor o wybodaeth.

Cysylltwch â HAWS:


Ffôn: 01745 335690
E-bost: HAWS@cartreficonwy.org
Gwefan: http://www.haws.org.uk/

Neu drwy dudalennau cymdeithasol HAWS ar Facebook a Twitter

 

end content