Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Gwybodaeth i Landlordiaid Benthyciadau Gwella Eiddo

Benthyciadau Gwella Eiddo


Summary (optional)
Gall y Cyngor ddarparu benthyciadau i berchnogion tai cymwys ail lenwi eiddo gwag fel cartrefi a/neu, i berchnogion sydd angen cymorth ariannol i wneud eu heiddo yn gynnes ac yn ddiogel.
start content

Os ydych angen gwella eich eiddo, gallwch ymgeisio am fenthyciad di-log. Mae dau gynllun di-log ar gael – Benthyciad Gwella’r Cartref a Benthyciad Gwella Eiddo.

Benthyciad Gwella’r Cartref

Mae’r Benthyciad Gwella Cartrefi yn fenthyciad di-log ar gyfer perchnogion sy’n ddeiliaid, landlordiaid, elusennau a datblygwyr. Mae angen i’r gwaith sy’n cael ei gynnal wneud yr eiddo’n gynnes, yn saff a/neu'n ddiogel.

Isafswm y benthyciad yw £1,000, a’r uchafswm yw £35,000 yr uned. Mae’r holl fenthyciadau yn cael eu sicrhau fel arwystl cyntaf neu ail arwystl yn erbyn y tir ar y Gofrestrfa Tir.

Bydd ffi weinyddol o £500.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar daflen y Cynllun isod, gan gynnwys y broses ymgeisio.

Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn derbyn ceisiadau newydd ar gyfer y cynllun Benthyciadau Gwella Cartrefi. Os ydych am i ni gysylltu â chi pan fyddwn yn cychwyn derbyn ceisiadau, cysylltwch â ni:

 

Nodwch fod y benthyciad yn amodol, ac ni ellir sicrhau cynnig benthyciad hyd nes bydd yr ymgeisydd wedi derbyn cymeradwyaeth ffurfiol.

Taflen Wybodaeth Benthyciad Gwella Cartrefi (PDF)

 

Benthyciad Gwella Eiddo

Mae’r cynllun Benthyciad Gwella Eiddo (a ariennir gan Lywodraeth Cymru) yn darparu benthyciadau di-log i alluogi adnewyddu neu wella eiddo sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy, gan gynnwys eiddo amhreswyl gwag, yn llety newydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Strategaeth Tai

end content