Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Polisïau, cynlluniau a strategaethau tai: Strategaeth Tai Lleol


Summary (optional)
start content

Mae tai da yn allweddol i sicrhau ansawdd bywyd gwell, iechyd gwell a gall drechu tlodi. Am y rheswm hwnnw felly, sicrhau bod gan bawb yn Sir Conwy rhywle fforddiadwy a phriodol i fyw yw prif gyfrifoldeb swyddogaeth tai strategol y Cyngor.

Strategaeth Tai Lleol 2018-2023

Mae llawer wedi’i gyflawni ers cyhoeddi’r strategaeth ddiwethaf yn 2013. Er enghraifft rydym wedi sefydlu Gwasanaeth Datrysiadau Tai Conwy, cyfrannu at adfywio Bae Colwyn a datblygu safle preswyl i Sipsiwn-Teithwyr. Fodd bynnag, mae gwneud gwahaniaeth trwy dai yn dod yn fwyfwy anodd. Mae cryfder y farchnad dai a phwysau cynyddol ar incwm tai yn ychwanegu at y pwysau cynyddol at y galw am ein hadnoddau cyfyngedig.

Mae’r strategaeth yn nodi sut y byddwn yn cynllunio i fynd i’r afael â’r heriau rydym yn eu hwynebu. Mae darparu datrysiadau yn rhywbeth gallwn ond ei ddarparu drwy weithio mewn partneriaeth effeithiol dros y sectorau tai preifat a thai cyhoeddus.

Fe luniwyd y Strategaeth Tai Lleol gan Bartneriaeth Strategol Tai Conwy ac mae’n eiddo iddynt hefyd. Ei nod yw gwneud y defnydd gorau o'n sgiliau ac adnoddau ar y cyd; i sicrhau bod ein hamcanion busnes yn cyd-fynd; ac yn y pendraw, i wneud y gorau y gallwn ni i wella'r dewisiadau tai yn Sir Conwy.

Dogfennau:

Strategaeth Tai Lleol 2024-2029

Gweledigaeth Strategaeth Tai Lleol Conwy 2018 yw i ‘Bobl yng Nghonwy gael mynediad at lety fforddiadwy, priodol ac o safon dda sy’n gwella ansawdd eu bywydau’.

Mae llawer wedi’i gyflawni ers i ni gyhoeddi ein strategaeth yn 2018. Er enghraifft, rydym wedi cyflawni 523 o unedau tai fforddiadwy trwy raglen y Grant Tai Cymdeithasol, dod â 162 eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a datblygu cynllun ailgartrefu cyflym Conwy.

Mae wedi bod yn amgylchedd heriol o ganlyniad i bandemig y Coronafeirws, newidiadau mewn deddfwriaeth a chynnydd mewn costau byw. Mae adroddiad Prif Gyflawniadau’r Strategaeth Dai Leol 2023 yn nodi sut yr aethom i’r afael â’r heriau yr oeddem yn eu hwynebu a’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni yn erbyn y targedau a gynlluniwyd. Dim ond trwy weithio mewn partneriaeth effeithiol ar draws y sectorau cyhoeddus a thai preifat y llwyddwyd i ddarparu datrysiadau.

Mae’r Strategaeth Tai Lleol wedi’i datblygu gan Bartneriaeth Tai Strategol Conwy a’r Bartneriaeth sy’n berchen arni. Rydym am barhau i wneud y defnydd gorau o'n sgiliau a’n hadnoddau; i sicrhau bod ein hamcanion busnes yn cyd-fynd; ac yn y pendraw, i wneud y gorau y gallwn ni i wella'r dewisiadau tai yn Sir Conwy yn 2024-2029.

Dogfennau:

Nesaf: Strategaeth Tai Gwag

end content