Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Polisïau, cynlluniau a strategaethau Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym

Polisïau, cynlluniau a strategaethau tai: Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym


Summary (optional)
start content

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gwneud digartrefedd yn rhywbeth ‘prin, byrhoedlog nad yw’n cael ei ailadrodd’. Bydd Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn nodi sut y bydd y Cyngor yn gweithio tuag at wireddu hyn.

Dyma yw gweledigaeth Ailgartrefu Cyflym y Cyngor:

‘Mae gwasanaethau allweddol yn darparu dull cydlynol i weithgarwch atal digartrefedd er mwyn sicrhau bod digartrefedd yn rhywbeth prin yng Nghonwy. Lle nad oes modd atal digartrefedd, gall pobl symud i lety sefydlog yn gyflym a chael mynediad at gymorth priodol, er mwyn sicrhau na chaiff digartrefedd ei ailadrodd. Os oes angen llety dros dro, bydd yn cael ei ddefnyddio am gyfnod byr yn unig.’

I wneud hyn mae angen newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae’r cynllun hwn yn amlinellu’r newidiadau sydd eu hangen dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Ailgartrefu Cyflym: canllawiau - Sut y byddwn yn helpu'r rhai sy'n profi digartrefedd i ddod o hyd i dai sefydlog yn gynt.

Dogfennau:

Nesaf: Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol

end content