Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Bioamrywiaeth yn yr Ysgol


Summary (optional)
Helpu i ofalu am eich amgylchedd lleol.
start content

Ceir rhai awgrymiadau isod sut y gall ysgolion ddiogelu bioamrywiaeth:

  • Gosod biniau ailgylchu ar gyfer gwahanol ddefnyddiau (gwydr, plastig, caniau, papur)
  • Trefnu clwb amgylcheddol i ddysgu am fywyd gwyllt a chadwraeth a gwneud prosiectau. Os ydych yn cysylltu â chyrff cenedlaethol megis Archwilwyr Bywyd Gwyllt yr RSPB, neu grwpiau Gwylio yr Ymddiredolaeth Bywyd Gwyllt, bydd gennych fynediad i amrywiaeth wych o syniadau ac adnoddau.
  • Gallai’r clwb gynhyrchu cylchlythyr amgylcheddol a allai fynd i’r holl ddisgyblion ac a allai adrodd ar weithgareddau a wnaed yn y dosbarth, apeliadau cadwraeth, adroddiadau ar fywyd gwyllt a welwyd yn yr ysgol (e.e. yn y pwll/gardd bywyd gwyllt) a thu allan.
  • Creu gardd bywyd gwyllt. Gallwch gynnwys nodweddion megis gardd pwll/cors, gorsaf fwydo, a border ar gyfer pili pala. Cysylltwch efo’r Swyddog Garddio Bywyd Gwyllt, am becyn gwybodaeth yn rhad ac am ddim, ac am gyngor pellach ar sut i ddatblygu un, ar 01248 360981
  • Trefnwch lwybr bywyd gwyllt: gallai arwain o amgylch tir yr ysgol neu safle gyfagos.
  • Adeiladwch flychau/fyrddau adar neu flychau ystlumod mewn gwersi crefft, gellid mynd â hwy adref neu eu rhoi i fyny yn yr ardd bywyd gwyllt.
  • Dylunio posteri i’w rhoi i fyny o amgylch yr ysgol i roi gwybodaeth i bobl ynghylch bywyd gwyllt a bioamrywiaeth. Gallai syniadau ddod o’ch gardd bywyd gwyllt, llwybr natur neu faterion cadwraeth a drafodwyd yn y dosbarth/clwb amgylcheddol.
  • Cynnal pleidlais ar fywyd gwyllt i weld pa blanhigion ac anifeiliaid yw’r mwyaf poblogaidd yn eich hysgol.
  • Annog rhieni a disgyblion i gerdded, beicio, neu rannu lifftiau i’r ysgol er mwyn torri ar nifer y ceir a llygredd yn yr ardal.

 

end content