Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Bioamrywiaeth yn y Gweithle


Summary (optional)
Helpu i ofalu am eich amgylchedd lleol.
start content

Gall busnesau hefyd helpu i warchod bioamrywiaeth leol. Dyma rai awgrymiadau sut y gall sefydliadau, waeth pa mor fychan neu fawr, gyfrannu at hyn.

Noddi rhywogaeth neu gynefin

Gall eich busnes gyfrannu arian tuag at brosiect sy’n anelu at fod o fudd i rywogaeth neu gynefin penodol. Efallai fod angen diogelu rhywbeth sy’n gysylltiedig â’ch gweithle a bod angen arian i gyflawni hyn. Yn ogystal â rhoi budd i’r rhywogaeth, cynefin neu brosiect, mae noddi hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd positif i’r busnes sy’n noddi wrth i'r berthynas ddatblygu.

Dechrau prosiect gwella bioamrywiaeth ar eich tir

Mae gan lawer o fusnesau dir gerllaw eu hadeiladau sydd wedi ei dirweddu neu nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd masnachol. Gellir defnyddio’r mannau hyn fel cynefinoedd a allai ddenu bywyd gwyllt i’r ardal. Gallai prosiectau gynnwys trawsnewid ardal o laswellt i ddôl blodau gwyllt, gosod pwll, datblygu gardd bywyd gwyllt. Mae nifer o gyrff cyllido a fyddai’n fodlon cyllido prosiectau bioamrywiaeth ar eiddo busnesau a gallai cyrff gwirfoddol megis y BTCV roi cymorth i gydlynu’r gwaith. Cysylltwch efo’n swyddog Bioamrywiaeth am wybodaeth bellach os gwelwch yn dda.

Diwrnodau gwaith staff

Mae nifer o’r sefydliadau sy’n gysylltiedig â Phartneriaeth Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Conwy yn gallu trefnu diwrnodau gwaith ar gyfer staff cwmni. Gellir trefnu diwrnod allan i’r staff sy’n cynnwys gweithio mewn gwarchodfa natur leol gerllaw safle eich cwmni. Byddai hyn yn rhoi cyfle i staff y cwmni ddysgu sgiliau ymarferol a darganfod mwy am bwysigrwydd bioamrywiaeth a’r amgylchedd, ac mae’n weithgaredd gwych i adeiladu tîm!

Bioamrywiaeth Yn Yr Ardd

Make a home for wildlife

end content