Darganfyddwch sut gallwch wneud eich tir yn well i fywyd gwyllt
Os ydych yn berchen ar ddarn o dir o unrhyw faint, mae sawl modd y gallwch roi cymorth i fywyd gwyllt lleol. Hyd yn oed gydag addasiadau bach i ymarferion rheoli, gellir gwella tir ar gyfer bywyd gwyllt. Mae syniadau yn cynnwys:
- Gadael i dyfiant dyfu tipyn o fetrau tu draw i derfynau cae, megis llwyni a glannau afon a ffensiau hyd yn oed.
- Gosod blychau ystlumod, pathew ac adar mewn coetir
- Gosod blwch neu lofft tylluanod mewn hen adeiladau a choed
- Osgoi torri gwrychoedd yn y tymor bridio adar
- Cynnal a chadw neu greu pyllau neu ffosydd
- Gosod gwâl i ddyfrgwyn ar lan eich afon.
Gall yr holl fesurau syml hyn godi gwerth eich tir fel cynefin ar gyfer bywyd gwyllt.
Taflen: Y Dylluan Wen yng ngogledd ddwyrain Cymru