Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwirfoddolwyr Bioamrywiaeth Conwy


Summary (optional)
start content

Os ydych yn dymuno rhoi cymorth i ddiogelu bywyd gwyllt a chefn gwlad Conwy, yna pam na wnewch chi ddod yn Wirfoddolwr ar gyfer Adain Mannau Agored Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy?

Gallwch gyfrannu ar sawl lefel, gan ddibynnu ar faint o amser y gallwch ei roi.

Cofnodion Bywyd Gwyllt

Mae cofnodi ble mae bywyd gwyllt yn cael ei ganfod yng Nghonwy yn bwysig i roi cymorth i ni allu adeiladu darlun gwell o fywyd gwyllt Conwy a gall fod o gymorth i wneud penderfyniadau rheoli pwysig. Cofnod, sef y Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru, sy'n cadw ac yn rheoli data bywyd gwyllt yn y rhanbarth. Os ydych yn gweld unrhyw fywyd gwyllt, o blanhigion, i bili pala, mamaliaid (y môr neu dirol) neu adar, cofnodwch hynny trwy eu gwefan!

Arolygon Bywyd Gwyllt

Mae llawer o'r rhywogaethau bywyd gwyllt sy'n bodoli yng Nghonwy wedi eu tan-gofnodi'n fawr. Er mwyn dysgu mwy ynghylch dosbarthiad bywyd gwyllt a sut mae'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn, rydym yn sefydlu nifer o arolygon i'w monitro. Mae arolygon o'r fath yn cynnwys arolygon pili pala ac adar. Nid oes angen unrhyw brofiad a byddwn yn darparu gwybodaeth neu hyfforddiant i chi cyn yr arolygon.

Rheoli Gwarchodfeydd

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy rydym yn rheoli nifer o warchodfeydd natur. Rydym angen gwirfoddolwyr yn aml i roi cymorth gyda gwaith rheoli dydd i ddydd ymarferol, o glirio prysgoed i gadw llygad ar y warchodfa sy'n lleol i chi.

Os ydych yn dymuno cymryd rhan fel Gwirfoddolwr yng Nghonwy, e-bostiwch affch@conwy.gov.uk.

end content