Gall hyd yn oed yn ardd leiaf fod yn hafan bwysig i löynnod byw. Gall blodau’r ardd fod yn ffynhonnell neithdar gwerthfawr, sef prif gyflenwad bwyd glöynnod byw. Mae lleihad mawr wedi digwydd yn y ffynhonnell hon o fwyd yng nghefn gwlad yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan fygwth sawl glöyn byw.
Gall unrhyw ardd wneud gwahaniaeth wrth fod o fudd i löynnod byw. Bydd gardd glöynnod byw dda yn llawn blodau lliwgar a fydd yn rhoi neithdar o’r gwanwyn hyd yr hydref. Mae modd garddio ar gyfer glöynnod byw yn y gerddi mwyaf ffurfiol hyd yn oed, trwy ddewis y mathau o blanhigion sy’n cynhyrchu fwyaf o neithdar. Er enghraifft dewiswch fathau efo blodau sengl yn hytrach na blodau dwbl, gan y bydd y glandiau sy’n cynhyrchu neithdar wedi cael eu colli o’r rhai dwbl, mae’n debyg.
Mae’n well gan löynnod byw lefydd cynnes a chysgodol, ac felly mae’n bwysig cofio hyn wrth gynllunio’ch gardd. Bydd glöynnod byw oedolion yn bwydo ar y neithdar melys o lawer o rywogaethau o flodau. Ond bydd eu lindys yn bwydo yn bennaf ar un math o blanhigyn. Er enghraifft, bydd sawl glöyn byw yn dodwy eu hwyau ar ddail poethion gan fod eu lindys yn bwydo ar y dail. Felly bydd gan yr ardd ddelfrydol ar gyfer glöynnod byw blanhigion i roi bwyd i’r lindys a rhai efo blodau sy’n rhoi digon o neithdar i’r oedolion.
Dyma restr o blanhigion, wedi’u trefnu yn ôl eu hadeg blodeuo. Mae Aubretia yn blodeuo o Ebrill i Fai, tra bo eiddew yn blodeuo o Hydref i Ragfyr. Trwy ddewis pa blanhigion i roi yn eich gardd, gallwch ddenu glöynnod byw drwy’r flwyddyn.
Planhigyn Bwyd i Loÿnnod Byw
- Aubretia
- Blodyn Heuldro
- Hebe
- Clychau’r Gog
- Croes yr Hwyr
- Lafant
- Briallu
- Penigan Barfog
- Penrhudd
- Blodyn y Fagwr
- Gwyddfid
- Mintys Y Gath
- N’ad Fi’n Angof
- Triaglog Goch
- Bidolglys yr Ardd
- Swllt Dyn Tlawd
- Coeden Fêl
- Llygad Llo Mawr
- Glesyn y Coed
- Melyn Yr Hwyr
- Gold Talsyth
- Coeden Lelog
- Mintys
- Gold Ffrainc
- Beryn Chwerw
- Llysiau'r-Milwr Coch
- Tamaid y Cythraul / Clafrllys
- Fflocsen
- Helichrysum
- Blodyn Mihangel
- Briweg Iâr Fach yr Haf
- Eiddew
Dyma restr o lindys a'r planhigion y byddwch eu hangen er mwyn eu denu i'ch gardd.
Lindys | Planhigyn Bwyd |
Y Fantell Goch, Iâr Fach Lygadog, Glöyn Trilliw |
Dail Poethion |
Iâr Fach Dramor |
Ysgall |
Gloyn Mawr Gwyn, Glöyn Bach Gwyn |
Capan Cornicyll, Bresych |
Gleysyn Y Celyn |
Cwyrwialen, Celynnen, Eiddew |
Glöyn Brwmstan |
Breuwydden |
Glesyn Cyffredin |
Pysen Ceirw, Maglys Du |
Blaen Oren, Iâr Wen Wythiennog |
Berwr Y Cerrig, Swllt Dyn Tlawd, Garlleg y Berth |
Tua diwedd yr haf, bydd llawer o löynnod byw yn bwydo ar ffrwythau sy’n pydru.
Gall rhwng 15 a 20 gwahanol fath o löyn byw ymweld â gardd o faint cyffredin yn ystod y flwyddyn. Bydd y rhan fwyaf o loÿnnod byw yn gaeafu fel lindys, ond bydd rhai ohonynt yn gaeafgysgu mewn llefydd claear, tywyll fel cytiau gardd, felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn aflonyddu ar löyn byw os dewch o hyd iddo’n gaeafgysgu.
Am bob glöyn byw sy’n ymweld â’ch gardd, gall fod hyd at 20 math o wyfyn. Gallwch ddenu gwyfynod drwy blannu blodau nos persawrus fel Gwyddfid, Melyn yr Hwyr, Nicotiana, Jasmin a Chroes yr Hwyr.
Mwy o Wybodaeth
Ymddiriedolaethau Natur Cymru