Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Darganfod ystlumod lu!


Summary (optional)
start content

Crynodeb o’r digwyddiad:

Dewch o hyd i ystlumod gyda thaith gerdded gydol nos yn Nôl Bach! Bydd sgwrs â darluniau lle cewch ddysgu am y creaduriaid diddorol a dirgel hyn. Wedi hynny, os yw’r tywydd yn caniatáu, byddwn yn mynd ar daith gerdded fyr a fflat o amgylch Ddôl Bach lle byddwn yn defnyddio datgelyddion ystlumod i weld a chlywed y gwahanol rywogaethau yn defnyddio’r ardal fel man hela drosoch eich hun. Fel arfer, byddwn yn gweld chwe rhywogaeth o leiaf. Darperir yr holl offer. Cyrraedd o 6.30pm ymlaen am de a choffi, gyda'r sgwrs yn cychwyn am 7pm yn union. Bydd y daith gerdded yn cychwyn tua 8.30pm.

  • Ni fydd darpariaeth Gymraeg ar gael yn ystod y digwyddiad yma
  • Esgidiau cryf a dillad addas, cynnes a distaw
  • Dewch â pheth ymlid pryfed gan y byddwn yn agos i’r afon
  • Mae lleoliad y sgwrs yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ond ni fydd lleoliad y daith gerdded
  • Mae croeso i oedolion a phlant hŷn sydd â diddordeb
  • Dim cŵn os gwelwch yn dda
  • Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gyflwyno yn Saesneg yn unig

Lleoliad:  

  • Ardal bywyd gwyllt Ddôl Bach ger yr Afon Elwy
  • Wrth fynd i mewn i Lanfairtalhaiarn dros yr hen bont garreg, parciwch ar y dde ger y biniau ailgylchu a’r toiledau cyhoeddus. Mae mwy o leoedd parcio yn y cefn. Cyfeirnod Grid: SH 292721:370248
  • Cyfarfod yng nghanolfan gymunedol yr Hen Ysgol, Lôn yr Ysgol, Llanfairtalhaiarn, LL22 8RT.

Dyddiad ac amser: 

  • Dydd Gwener 24 Awst 2018
  • Cyrraedd am 6.30pm er mwyn dechrau am 7pm.
  • Gorffen 10pm.

Gwybodaeth archebu:

  • Mae archebu lle yn hanfodol.
  • Ffoniwch 07736 454062.
  • Mae lleoedd wedi’u cyfyngu i 20 (gan gynnwys plant)
  • Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau cyn gwneud eich archeb
end content