Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gloÿnnod Byw Gwych y Gogarth


Summary (optional)
start content

Crynodeb o’r digwyddiad:

Dewch i ymuno â Warden y Parc Gwledig ac aelodau Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, i chwilio am loÿnnod byw (yn cynnwys glesyn serennog unigryw’r Gogarth) a gwahanol fathau o fywyd gwyllt. Dewch i wybod mwy hefyd am hanes a chadwraeth y tir eiconig hwn. Yn dibynnu ar amodau’r tywydd, byddwn yn gweld is-rywogaethau unigryw'r glesyn serennog a’r gwerlöyn llwyd ynghyd â llawer mwy o rywogaethau sy’n byw ar y pentir arfordirol anhygoel hwn.

  • Taith gerdded 3 milltir anodd gyda llwybrau anwastad a serth
  • Mae’r daith yn cynnwys disgynfa serth tuag at lefel y môr a dringfa serth at Ben y Gogarth
  • Mae esgidiau cerdded yn hanfodol yn ogystal â dillad sy’n dal dŵr ac yn gynnes rhag y gwynt, hetiau, eli haul, a digon i yfed, felly byddwch yn barod am unrhyw dywydd!
  • Dewch â'ch pecyn bwyd a’ch diodydd eich hun a byddwn yn cael seibiant i ginio mewn man addas
  • Mae croeso i oedolion/teuluoedd ond byddwch yn ymwybodol bod y daith gerdded yn un hir, dros dir serth ac anwastad
  • Mae croeso i gŵn gydag ymddygiad da ar dennyn
  • Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gyflwyno yn Saesneg yn unig

Lleoliad:

  • Parc Gwledig y Gogarth
  • Cyfarfod yn nholldy Penmorfa (GR:SH 768 823)

Dyddiad ac amser:

  • Dydd Sul 24 Mehefin 2018 10.30am - 3pm

Gwybodaeth archebu:

  • Mae archebu lle yn hanfodol.
  • Ffoniwch Mark Sheridan ar 01492 583820 
  • Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau cyn gwneud eich archeb
end content