Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Heidio i'r Gogarth


Summary (optional)
start content

Crynodeb o’r digwyddiad:

Ymunwch â wardeniaid y parc gwledig a mentro i fyd bach llysdyfiant y Gogarth i ddysgu am sut mae’r creaduriaid lleiaf yn cael effaith fawr ar ein byd. Gyda gemau hwyliog a chrefftau.

  • Ni fydd darpariaeth Gymraeg ar gael yn ystod y digwyddiad yma.
  • Gall y tywydd fod yn newidiol ar y Gogarth felly mae esgidiau cadarn yn hanfodol, yn ogystal â dillad gwrth ddŵr a chynnes rhag y gwynt, hetiau, eli haul a digon i yfed
  • Bydd rhannau o’r digwyddiad yn cael eu cynnal dan do, ond bydd y sesiwn tu allan yn cynnwys cerdded ar dir anwastad
  • Yn anffodus, nid yw’r digwyddiad hwn yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn
  • Dim cŵn os gwelwch yn dda
  • Anelwyd y digwyddiad at blant yng nghwmni oedolyn
  • Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gyflwyno yn Saesneg yn unig

Lleoliad:

  • Canolfan Ymwelwyr y Gogarth
  • Parcio talu ac arddangos ar gael

Dyddiad ac amser:

  • Dydd Sadwrn, 7 Gorffennaf, 12.30pm – 3pm

Gwybodaeth archebu:

  • Mae archebu lle yn hanfodol
  • Ffoniwch 01492 874151
  • Nodwch pa ddyddiad sydd orau gennych oherwydd bod lleoedd yn brin
  • Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau cyn gwneud eich archeb
end content