Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Diwrnod Moroedd y Byd ym Mhensarn


Summary (optional)
start content

Crynodeb o’r digwyddiad:

Dewch i gael eich rhyfeddu gan fywyd morol Traeth Pensarn! I ddathlu Diwrnod Moroedd y Byd, byddwn yn edrych ar fywyd gwyllt Gwarchodfa Natur Leol Pensarn, gyda sgwrs gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Bydd digon o weithgareddau ar y thema bywyd gwyllt, ynghyd â chasglu sbwriel ar y traeth.

  • Dillad gwrth-ddŵr ac esgidiau glaw/esgidiau cerdded cadarn gan y gallai'r cerrig fod yn llithrig
  • Nid yw’r traeth creigiog yn addas i gadeiriau olwyn ond mae’r Promenâd yn hygyrch
  • Mae croeso i gŵn gydag ymddygiad da ar dennyn
  • Darperir yr holl offer
  • Mae’r digwyddiad wedi ei anelu at blant yng nghwmni oedolyn
  • Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gyflwyno yn Saesneg yn unig

Lleoliad:

  • Traeth Pensarn
  • Maes parcio Traeth Pensarn, wrth ymyl y caffi gyda’r cerfluniau crancod LL22 7PP

Dyddiad ac amser:

  • Dydd Sadwrn, 9 Mehefin 1-4pm.

Gwybodaeth archebu:

  • Mae archebu lle yn hanfodol
  • Ffoniwch 07736 454062
  • 35 lle yn unig
  • Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau cyn gwneud eich archeb
end content