Rydym yn edrych ymlaen at eich cyfarfod gyda lluniaeth yn neuadd y pentref am 1pm. Fe fydd yna sgwrs a fydd yn para tua 40 munud. Bydd gweithgareddau addas i blant (lliwio a phosau) ar gael yn ystod y sgwrs ar gyfer cyfranogwyr iau. Ar ôl y sgwrs, byddwn yn mynd am dro o amgylch y warchodfa.
Cwrdd wrth: Neuadd Bentref Llysfaen (ar Ffordd Dolwen) cod post: LL29 8SS. Maes parcio ar gael ym Mynydd Marian - O Ffordd y Llan Road, trowch i'r dde i Bron y Llan Road a throwch i'r dde i mewn i faes parcio'r warchodfa.
Mae'r maes parcio 100m o neuadd y pentref (gyferbyn ag eglwys y pentref).
Rhaid archebu, ffoniwch 01492 575337/07733 012842
Noder:
Bydd y llwybr cerdded yn cynnwys, mewn mannau, tir serth, garw a chreigiog weithiau yn cynnwys cerdded mewn un llinell. Mae esgidiau cerdded cryf yn angenrheidiol ac mae dillad sy’n dal dŵr yn syniad da.
Ddim yn addas i gadeiriau olwyn.
Mae'n ddrwg gennym - dim cŵn ar yr achlysur hwn.
Gloÿnnod byw - Gwarchodfa Natur Leol