Cyfeirnod Grid:SH 942786.
Mae hon yn gefnen raeanog sydd wedi ei gorchuddio â thyfiant, a thu ôl iddi mae stribedyn o dywod a graean sefydlog yn cynnal twyni glaswelltog. Mae'r safle i'r gogledd-orllewin o Abergele ac yn cael ei wahanu oddi wrth yr A55 a rheilffordd Caer i Gaergybi gan barc carafanau bychan. Ym 1977, dynodwyd rhan o'r traeth yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), i gydnabod mai dyma'r enghraifft orau o gefnen raeanog â thyfiant arni yn y sir , ac am ei flodau arbennig o gyfoethog. Gellir dod o hyd i nifer o rywogaethau planhigion sy'n brin yng Ngogledd Cymru yma, megis Bresych y Môr, canclwm Ray, a Rhuddygl Môr.
Mae gan y Cyngor Cefn Gwlad gynllun rheoli ar gael gyda manylion am y rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid a gofnodwyd ar y safle. Mae hefyd yn cynnwys rhestr o bethau sy'n debygol o wneud niwed i'r diddordeb arbennig, ac y byddai'n rhaid ymgynghori efo'r Cyngor Cefn Gwlad cyn eu gwneud, a chael caniatâd. Wrth y brif fynediad i'r safle, ceir panel dehongli ynghylch pwysigrwydd y gefnen raeanog, ac yn dangos rhai o'r rhywogaethau planhigion a geir yno.
Gellir mynd am dro braf ar hyd y promenâd, sydd hefyd yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Am dro pellach dilynwch Lwybr y Gogledd, sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r traeth ac yn ymestyn ar hyd yr arfordir i'r dwyrain a'r gorllewin. Fel arall, gallwch ddod â beic a gwneud defnydd o'r llwybr beicio sy'n ffurfio rhan o Rwydwaith Beicio Gogledd Cymru yn rhedeg ar hyd yr arfordir o Bensarn i Landrillo-yn-Rhos. Ymhlith y cyfleusterau a geir ar hyd y promenâd mae toiledau a chaffi yn y tymor.
Newyddion Da!
Yn newyddion i ni hefyd yw bod parau o gwtiaid torchog wedi'u gweld ac yn edrych i fod yn ceisio bridio yn SoDdGA traeth Pensarn eto eleni. Am y 3 blynedd diwethaf mae parau wedi magu cywion yn llwyddiannus, a chredwn fod y llwyddiant yn bennaf i godi ymwybyddiaeth pobl fod y cwtiaid ar y graean bras. Caiff y wyau eu dodwy ymhlith y cerrig heb unrhyw nyth sy’n golygu bod yr adar yn ddiamddiffyn iawn rhwng mis Mai a mis Awst. Cerddwyr a’u ffrindiau pedwar coes yw'r bygythiad mwyaf i lwyddiant bridio’r cwtiaid hyn.
Cyhoeddiadau Cefn Gwlad
Y Côd Cefn Gwlad