Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Caerhun - Llwybr Ceffylau 101: Rhybudd Gorchymyn Diwygio


Summary (optional)
start content

Cyfeirnod: CCBC - 044019

Rhybudd Gorchymyn Diwygio


Adran 53 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Datganiad a Map Diffiniol Bwrdeistref Sirol Conwy

Gorchymyn Diwygio Map Diffiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Ychwanegu Llwybr Ceffylau Rhif 101 yng Nghymuned Caerhun) 2022


Os caiff y Gorchymyn uchod, a wnaed ar 8 Rhagfyr 2022, ei gadarnhau ar y ffurf y cafodd ei wneud arni, bydd yn newid map a datganiad diffiniol yr ardal trwy ychwanegu llwybr ceffylau sy’n hawl tramwy cyhoeddus i geffylau, i bobl ar droed a gyda beic, yng nghymuned Caerhun. Mae’r Llwybr Ceffylau’n dechrau pan fo’n gadael y rhan ag arwyneb o’r ffordd a elwir Ffordd Bryn Siriol, yng nghyfeirnod grid SH 7664 6768 ac yn mynd i fyny tua’r gogledd-ddwyrain am rai metrau cyn troi tua’r gogledd-orllewin gan basio rhwng eiddo Bryn Siriol a’r tai allan yna parhau i fyny tua’r gogledd-orllewin mewn patrwm igam-ogam gan ddod i ben yn gyfagos i fynedfa Llidiard Fadog a ffordd darmac Pant Meurig yng nghyfeirnod grid SH 7620 6794.  Mae’r llwybr tua 679m o hyd.  Mae lled y llwybr yn amrywio o 2.9m a 1.5m gyda mannau cyfyng mewn rhannau cul rhwng y wal a’r creigwely.

Bydd modd archwilio copi o'r Gorchymyn a fap yn Llyfrgell Conwy, Llyfrgell Llanrwst,  Swyddfeydd y Cyngor Coed Pella Bae Colwyn ac ar wefan y Cyngor.

Rhaid anfon unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â'r Gorchymyn ar bapur at Bennaeth y Gyfraith a Llywodraethu, Blwch Post 1, Conwy LL30 9GN neu at cyfreithiol@conwy.gov.uk ddim hwyrach na 10 Chwefror 2023 a rhaid iddynt gynnwys manylion am y sail dros eu gwneud.

Os na fydd unrhyw sylwadau na gwrthwynebiadau'n cael eu cyflwyno yn briodol, neu os bydd unrhyw rai sydd wedi eu cyflwyno yn cael eu tynnu'n ôl, gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gadarnhau'r Gorchymyn fel Gorchymyn heb wrthwynebiad.  Os bydd y Gorchymyn yn cael ei anfon at Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, bydd unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau sydd heb gael eu tynnu'n ôl yn cael eu hanfon gyda'r Gorchymyn

Dyddiedig:  21 Rhagfyr 2022

CeriWilliamsSignature

Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Tudalen Nesaf:  Gorchymyn Diwygio Map Diffiniol

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content