Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwyro Llwybr Cyhoeddus Rhif 24 Llysfaen: Hysbysiad ynglŷn â gwneud Gorchymyn


Summary (optional)
start content

Cyfeirnod:  CCBC-046038

Deddf Priffyrdd 1980  - Adran 119 Hysbysiad ynglŷn â gwneud Gorchymyn

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Llwybr Cyhoeddus Rhif 24 Llysfaen) (Gwyro Llwybr Cyhoeddus) 2023

Bydd y Gorchymyn uchod a wnaed ar 19 Gorffennaf 2023 dan Adran 119 Deddf Priffyrdd 1980, yn gwyro’r rhan honno o lwybr Rhif 24 Llysfaen sy’n mynd o’r gyffordd â llwybr 25 yng nghyfeirnod grid SH 90166 76654 tua’r de-orllewin rhwng yr adeiladau am oddeutu 60 metr i gyfeirnod grid SH 90134 76643.  
 
Bydd rhan newydd y llwybr yn dechrau yng nghyfeirnod grid SH 90166 76654 ac yn mynd tua’r de-orllewin y tu ôl i’r tai allan am oddeutu 60 metr i gyfeirnod grid SH 90134 76643.  Lled y llwybr yw 1.5 metr.  
 
Gellir arolygu copi o’r Gorchymyn ar wefan y Cyngor ac yn Swyddfeydd y Cyngor Coed Pella Bae Colwyn yn ystod oriau swyddfa arferol. Rhaid anfon unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau i'r Gorchymyn yn ysgrifenedig at cyfreithiol@conwy.gov.uk ddim hwyrach na 25 Awst 2023. 
 
Os na dderbynnir unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau, neu os bydd rhai a wneir yn cael eu tynnu'n ôl, gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gadarnhau’r Gorchymyn fel Gorchymyn diwrthwynebiad. Os caiff y Gorchymyn ei anfon at Weinidogion Cymru i'w gadarnhau, bydd unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau sydd heb gael eu tynnu'n ôl yn cael eu hanfon gyda'r Gorchymyn.
 
Dyddiedig: 26 Gorffennaf 2023

Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content