Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Llwybr Cyhoeddus Rhif 7 Eglwysbach - Hysbysiad ynglŷn â gwneud Gorchymyn


Summary (optional)
start content

Cyfeirnod: CCBC-048512

Deddf Priffyrdd 1980 - Adran 118 Hysbysiad ynglŷn â gwneud Gorchymyn

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Llwybr Cyhoeddus Rhif 7 Eglwysbach) (Dileu Llwybr Cyhoeddus) 2024

Bydd y Gorchymyn uchod a wnaed ar 25 Ionawr 2024 dan Adran 118 Deddf Priffyrdd 1980, yn dileu’r rhan honno o lwybr troed Rhif 7 Eglwysbach sy’n dechrau wrth gamfa uwchlaw hen chwarel yng nghyfeirnod grid SH 80871 70697 ac yn mynd i lawr ar ochr orllewinol y chwarel i gyfeiriad y de am oddeutu 110m, gan ddod i ben wrth y gyffordd â Ffordd Gyffylog yng nghyfeirnod grid SH 80932 70608.

Gellir gweld copi o’r Gorchymyn ar wefan y Cyngor ac yn Swyddfeydd y Cyngor, Coed Pella, Bae Colwyn, yn ystod oriau swyddfa arferol. Rhaid anfon unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau i'r Gorchymyn yn ysgrifenedig at cyfreithiol@conwy.gov.uk ddim hwyrach na 1 Mawrth 2024.

Os na dderbynnir unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau, neu os bydd rhai a wneir yn cael eu tynnu'n ôl, gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gadarnhau’r Gorchymyn fel Gorchymyn diwrthwynebiad. Os caiff y Gorchymyn ei anfon at Weinidogion Cymru i'w gadarnhau, bydd unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau sydd heb gael eu tynnu'n ôl yn cael eu hanfon gyda'r Gorchymyn.

Dyddiedig: 31 Ionawr 2024

Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content