Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Llwybr Cyhoeddus Rhif 7a Eglwysbach - Hysbysiad ynglŷn â gwneud Gorchymyn


Summary (optional)
start content

Cyfeirnod: CCBC-048512

Deddf Priffyrdd 1980 - Adran 26 Hysbysiad ynglŷn â gwneud Gorchymyn

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Llwybr Cyhoeddus Rhif 7a Eglwysbach) (Creu Llwybr Cyhoeddus) 2024

Bydd y Gorchymyn uchod a wnaed ar 25 Ionawr  2024 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dan Adran 26 Deddf Priffyrdd 1980, yn creu darn o Lwybr Troed Cyhoeddus yng Nghymuned Eglwysbach a elwir yn Llwybr Troed 7a Eglwysbach. Bydd yn dechrau wrth y gamfa o lwybr troed 7 uwchlaw hen chwarel yng nghyfeirnod grid SH 80871 70697, ac yn mynd i gyfeiriad y dwyrain am oddeutu 30m ac yna’n mynd i lawr i gyfeiriad y de ar ochr ddwyreiniol hen chwarel am oddeutu 90m tuag at gamfa, ac yn dod i ben wrth y gyffordd gyda Ffordd Gyffylog yng nghyfeirnod grid SH 80935 70605. Hyd y llwybr yw tua 120m ac mae 2m o led.

Gellir gweld copi o’r Gorchymyn ar wefan y Cyngor ac yn Swyddfeydd y Cyngor, Coed Pella, Bae Colwyn, yn ystod oriau swyddfa arferol. Rhaid anfon unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau i'r Gorchymyn yn ysgrifenedig at cyfreithiol@conwy.gov.uk ddim hwyrach na 1 Mawrth 2024.

Os na dderbynnir unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau, neu os bydd rhai a wneir yn cael eu tynnu'n ôl, gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gadarnhau’r Gorchymyn fel Gorchymyn diwrthwynebiad. Os caiff y Gorchymyn ei anfon at Weinidogion Cymru i'w gadarnhau, bydd unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau sydd heb gael eu tynnu'n ôl yn cael eu hanfon gyda'r Gorchymyn.
 
Dyddiedig: 31 Ionawr 2024

Ceri Williams
Legal Services Manager

Tudalen Nesaf:  Map

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content