Mae degawd wedi bod ers y cyflwynwyd Cynllun Gwella Hawliau Tramwy. Rydym wedi gweld llawer o newidiadau yn y cyfnod hwn, yn arbennig y ffordd y mae pobl yn gweld ymarfer corff a hamdden awyr agored fel prif elfennau i wella iechyd y genedl. Mae teithio o fewn y sir a mynediad at yr awyr agored wedi cael ei gefnogi gan nifer o newidiadau mewn deddfwriaeth. Mae llwybrau teithio llesol a gyflwynwyd yn ddiweddar yn ychwanegu at well gyfleoedd i’r llwybrau beiciau presennol a llwybrau cerdded yr arfordir. Mae’r argaeledd cynyddol o hawliau tramwy a’u mynediad i bawb yn fantais i iechyd a hamdden yn ein cymuned.
Roedd y gwaith paratoi sylfaenol wedi’i sefydlu yn 2008, felly mae’r cynllun newydd hwn yn gwneud camau positif ymlaen i’r degawd nesaf.
Gynllun Drafft Gwella Hawliau Tramwy 2019-2029
Rhowch eich barn ar y cynllun draft hwn cyn 17 Mehefin 2019.
Dywedwch wrthym beth rydych yn ei feddwl: Adborth Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau