Daw'r ymgynghoriad hwn i ben ar 20 Tachwedd 2023.
Nid yw’n ofynnol yn gyfreithiol i’r Cyngor ddarparu toiledau cyhoeddus, ond mae’r ddemograffeg yng Nghonwy a’r mewnlifiad o ymwelwyr bob blwyddyn yn gwneud toiledau cyhoeddus yn bwysig i’r economi leol.
Mae toiledau cyhoeddus yn galluogi pobl i fwynhau’r atyniadau a busnesau yn yr ardal. Mae argaeledd toiledau cyhoeddus mewn ardaloedd hamdden poblogaidd yn annog pobl i ymarfer corff ac aros yn actif yn gorfforol, sydd â manteision clir i iechyd a lles.
Ar hyn o bryd mae 48 o doiledau cyhoeddus a reolir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a 3 o doiledau cyhoeddus yn cael eu rhedeg gan Gynghorau Tref a Chymuned. Mae’r rhain yn cynnwys 41 o doiledau anabl a 22 o gyfleusterau newid babis.
Cyllideb flynyddol bresennol y gwasanaeth toiledau cyhoeddus yw £600,000. Mae cost fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol oddeutu £20,700 y flwyddyn.
Rydym wedi datblygu’r strategaeth ar gyfnod o bwysau ariannol ar gyfer yr Awdurdodau Lleol. Felly mae’r strategaeth yn ceisio darparu gwasanaeth toiledau cyhoeddus ar sail cost niwtral.
Bydd y Cyngor yn adolygu’r ddarpariaeth toiledau cyhoeddus presennol yng Nghonwy drwy:
- Archwilio cyfleoedd i Gynghorau Tref a Chymuned gymryd cyfrifoldeb am doiledau cyhoeddus yn eu hardal leol.
- Ystyried gwneud toiledau mewn adeiladau’r cyngor yn hygyrch i’r cyhoedd.
- Adolygu’r cynllun toiledau cymunedol.
- Gwneud y mwyaf o gyfleoedd cyllid grant er mwyn gwella toiledau cyhoeddus yng Nghonwy.
Mae Strategaeth Toiledau Cyhoeddus Drafft Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 2023 ar gael i’w hadolygu a rhoi adborth.
Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 20 Tachwedd 2023.