O ddydd Llun 14 Medi 2020, mae gorchuddion wyneb yn orfodol mewn mannau cyhoeddus dan do ar draws Cymru. Nodwch fod rhaid gwisgo gorchuddion wyneb bob amser mewn canolfannau hamdden heb law am wrth ymarfer corff.
Er enghraifft, bydd angen i chi wisgo gorchudd wyneb pan fyddwch yn dod i mewn i’r adeilad a phan fyddwch yn y dderbynfa a bydd ond yn bosibl ei dynnu i ffwrdd pan rydych yn yr ystafell lle bydd yr ymarfer corff yn digwydd. Yna bydd rhaid rhoi’r gorchudd wyneb yn ôl ymlaen i adael yr adeilad. Rydym yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad yn y mater hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon:
https://llyw.cymru/gorchuddion-wyneb-canllawiau-ir-cyhoedd