Cefnogi cymunedau gwledig i ddatblygu clybiau a chynnig amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys chwaraeon ar ôl ysgol a sesiynau ffitrwydd i oedolion. Darparu arweiniad a chymorth grant cyffredinol i glybiau ac athletwyr talentog. Mae'r adran hon yn cynnwys tîm ymroddedig o hyfforddwyr sy'n darparu amrywiaeth o weithgareddau hamdden yng Nghonwy Wledig.
Mae'r rhaglen yn cynnwys:
- Dosbarthiadau ffitrwydd Oedolion (Ymarfer Corff Bocsio, Beicio Stiwdio, Pilates, Pwysau Tegell, Hyfforddiant Cylchol)
- Chwaraeon ar ôl ysgol (sesiynau aml-chwaraeon)
- Hyfforddiant Beicio a Hyfforddiant Beicio Mynydd
- Hyfforddiant Sgwteri
- Cyfleoedd dysgu i reidio (pob oed)