Dyma gynllun mynediad sy’n helpu pobl anabl i fod yn fwy actif drwy hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Mae’r manteision yn cynnwys:
- nofio am ddim yn ystod oriau cyhoeddus
- mynediad am ddim i ystafelloedd ffitrwydd CBSC (mae angen mynychu sesiwn cynefino)
- mynediad am ddim i ddosbarthiadau ffitrwydd a chost hanner pris i logi cyrtiau sboncen, badminton a thennis
Er mwyn bod yn gymwys i gael Tanysgrifiad Ffyddloneb Anabledd mae’n RHAID i chi dderbyn naill ai lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, lwfans mynychu neu gredydau treth i bobl anabl.
Cysylltwch ag unrhyw Gyfleuster Hamdden CBSC neu’r Tîm Datblygu Hamdden ar 01492 575563 / 575564 neu hamdden.leisure@conwy.gov.uk