top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Cartref Chwaraeon a ffitrwydd Gwybodaeth am Ddosbarthiadau Ffitrwydd
start content

Gwybodaeth am Ddosbarthiadau Ffitrwydd

Nid ydym yn darparu Matiau Ymarfer mwyach. Wrth fynychu Dosbarthiadau, bydd angen dod â’ch mat eich hun. Mae gennym rai y gellir eu prynu yn ein Cyfleusterau Hamdden hefyd.

Rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o ddosbarthiadau ffitrwydd sy'n addas i anghenion ein cymuned gyfan, o’r dechreuwr pur i'r ymarferwyr hynod ffit.

Mewn partneriaeth gyda Les Mills rydym wedi ychwanegu’r dosbarth byd enwog ‘BodyPump’ i'n hamserlen ffitrwydd. Gobeithiwn barhau i gyflwyno llawer mwy o ddosbarthiadau ar eich cyfer.

Byddwch yn sicr o ddod o hyd i ddosbarth rydych yn ei fwynhau cymaint fel na fyddwch hyd yn oed yn sylweddoli eich bod yn ymarfer!

Dosbarth YmarferDisgrifiad
Adfer Abs Canolbwyntio ar graidd eich corff. Mae’r dosbarth hwn ar gyfer dechreuwyr a bydd yn eich helpu i leihau eich stumog, gwella eich sefydlogrwydd drwy’ch craidd a chanolbwyntio ar eich craidd drwy amrywiaeth o ymarferion. 
Adfywio’r Abs Ymarfer corff ar gyfer craidd y corff er mwyn tynhau eich gwasg a chynyddu diffiniad yr abs. Amrywiaeth o ymarferion fel planc, crensiadau ac ymarferion gyda phwysau fydd yn cael eu defnyddio yn y dosbarth hwn.  

Aerobeg Hi-Lo

Dewch i ymarfer corff i rythm y gerddoriaeth gydag un o’n hyfforddwyr egnïol.  Os ydych am weithio’n galed neu gael hwyl, bydd yr ymarferion cardio hwyliog yma yn gwella eich ffitrwydd a’ch helpu i golli pwysau.

Beicio Dan Do

Gyda cherddoriaeth wych yn llenwi’r lle, bydd eich hyfforddwr yn eich tywys drwy bob cam o’r ymarfer – cynhesu’r corff, rhythmau tempo cyflym sefydlog, sbrintio, dringo ac oeri’r corff unwaith eto. Fe allai’r dosbarth ddefnyddio RPM/watiau a lefelau. Mae archebu lle ymlaen llaw yn hanfodol.
Erobeg Cadair Sesiynau mewn cadair sy’n ddelfrydol i bobl hŷn neu bobl lai abl o unrhyw oed. Maent yn sesiynau ymarferion grŵp llawn hwyl a mwynhad wedi’u gosod i gerddoriaeth a’r nod yw gwella symudedd, cydbwysedd, cryfder a hyblygrwydd
Erobeg Cyfle i ymarfer corff i rythm gydag un o’n hyfforddwyr egnïol. Os ydych am weithio’n galed neu gael hwyl, bydd yr ymarferion cardio hwyliog yma yn gwella eich ffitrwydd ac yn eich helpu i golli pwysau. 
Acwa Ffit Ymarfer diogel ac effeithiol gan ddefnyddio’r gwthiant mae’r dŵr yn ei greu. Defnyddir offer i gynyddu dwyster - addas ar gyfer pob oed a lefel ffitrwydd. Mae'n rhaid archebu o flaen llaw.
Cyflyru Aur Ymarfer erobeg i dargedu holl rannau’r corff. Bydd y dosbarthiadau hyn yn cynnwys amrywiaeth o ymarferion gan gynnwys crensiadau, sgwatiau, rhagwthion (lunges), ac maent yn cael eu gwneud ychydig yn haws ac yn arafach. 
Cyflyru LBT Mae LBT (Coesau, Pen Olau a Boliau) yn cyfuno ymarfer erobeg gydag ymarferion i dargedu’r abs a rhan isaf y corff. Bydd y dosbarthiadau hyn yn cynnwys amrywiaeth o ymarferion gan gynnwys crensiadau, sgwatiau, rhagwthion (lunges) a mwy. 
Cyflyru gyda Phwysau Tegell Dyma ddosbarth ymarfer cryfder , gan ddefnyddio Pwysau Tegell. Mae’r dosbarth yn cynnwys amrywiaeth o symudiadau gan ddefnyddio un neu ddwy law i siglo, pwyso neu dynnu. Mae’n ddosbarth hawdd ei ddilyn lle gallwch ddewis eich cyflymder eich hun, gyda phwysau sy’n addas i chi.
Cyflyru gyda Barbwysau Ymarfer gyda barbwysau i guriad y gerddoriaeth. Gan ddefnyddio barbwysau gweddol galed cewch eich hyfforddi i wthio at eich targedau hyfforddi. 
Cryfder a Chyflyru Dyma ddosbarth cryfder a chyflyru sy’n defnyddio amrywiaeth o bwysau gwahanol gan gynnwys dymbelau, barbwysau, pwysau tegell, a defnyddio pwysau’r corff. Mae’r dosbarth yn cynnwys pob math o symudiadau gan gynnwys pwyso, tynnu a siglo er mwyn ymarfer y corff cyfan. Gellir teilwra’r ymarfer hwn i’ch targedau hyfforddi personol chi. 
Dynameg y Corff Gweithdy pwysau’r corff, wedi’i deilwra i’ch gallu. Mae’n gweithio ar gyfuniad o gydbwysedd, hyblygrwydd a sgiliau cryfder a symudedd. Mae’r sesiynau hyn yn hwyl, egnïol ac yn wahanol i’r arfer.
Ymestyn ac Ymlacio Sesiwn sy’n ymestyn ac yn cryfhau’r cyhyrau dyfnach er mwyn gwella aliniad y corff, ystum, symudiad ac anadlu. 
Bocs Ffit Ymarfer corff cardio gan ddefnyddio symudiadau bocsio a gwaith gyda phartner. Mae’r ymarfer hwn yn ffordd dda o gael gwared o straen ac yn ffordd hwyliog o losgi llwyth o galorïau.
Cylched Aur Ymarfer mewn gorsafoedd. Mae’r gorsafoedd wedi eu dylunio i fod ar lefel is a chaiff pobl fynd ar eu cyflymder eu hunain. 
Gravity (60 munud) Mae sesiynau hyfforddiant grŵp ‘Gravity’ yn cynnig manteision gwych i weddu i bob unigolyn gan ei fod yn ymarfer effeithlon i’r corff cyfan gan gynhyrchu canlyniadau cyflym, gweladwy sy’n newid y corff.  Mae’n cynyddu cryfder a dygnwch wrth wella cydsymudiad a chydbwysedd, codi eich cyfradd fetabolaidd ac yn gwella perfformiad gweithredol gweithgareddau bob dydd ac athletiaeth.

Mae’r ‘ELEVATE Encompass’ yn gweithio ar lethr, gan ddibynnu ar ymwrthedd pwysau’r corff, gan gryfhau’r ffordd y mae’r corff yn cyflawni gweithgareddau corfforol bob dydd gan weithio gyda disgyrchiant er mwyn darparu dosbarth sy’n ymarfer y corff cyfan.
Gravity Gold (45 munud) Mae gan sesiynau hyfforddiant grŵp ‘Gravity Gold’ yr un manteisio â’r dosbarthiadau ‘Gravity’, ond maent yn cael eu gwneud ychydig yn haws ac yn arafach. Mae’r dosbarthiadau hyn yn ddelfrydol ar gyfer cwsmeriaid sy’n newydd i ‘Gravity’ neu sy’n dechrau ar eu siwrnai ffitrwydd.
Cylched Ffit Ymarfer mewn gorsafoedd. Gweithio gydag amser a nifer o ymarferion i ymarfer y corff cyfan. Mae’n bosib y byddwn yn cyfuno ymarferion HIIT ac ymarferion penodol fel defnyddio barbwysau a sgwatiau. Yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr a defnyddwyr mwy profiadol. 
Cylched HIIT Ymarfer mewn gorsafoedd gan ddefnyddio ymarferion HIIT ac amrywiaeth o offer. Mae ymarfer yn galed am gyfnodau byrion yn gwella eich ffitrwydd yn gyflym gan losgi mwy o fraster ar yr un pryd. Mae ymarferion yn cynnwys byrpis, pengliniau uchel a rhagwthion plyo. 
Pêl Ffit Ymarfer gwych i’r corff cyfan - gan ganolbwyntio mwy ar graidd eich corff. Mae’r ymarfer hwn yn defnyddio amrywiaeth wych o ymarferion cardio a chyflyru. Mae defnyddio’r dymbelau a’r Fitball yn ychwanegu dimensiwn newydd  Mae hefyd yn gweithio ar eich cydbwysedd a’ch symudedd. 
RPM Trac Gyda cherddoriaeth wych yn pwmpio mae’r hyfforddwr yn mynd â chi drwy’r ymarferion - cynhesu, dringo yn sefydlog, sbrintio, dringo, ac oeri, gan ddefnyddio rpm a watiau. Mae'n rhaid archebu o flaen llaw.
Teimlad Trac Defnyddio’r gerddoriaeth egnïol i ddilyn y curiad a’r rhythm mewn amgylchedd hwyliog. Bydd eich Hyfforddwr yn arwain ac yn sicrhau eich bod yn cadw at y curiad. Mae'n rhaid archebu o flaen llaw.
Trac Dull Rhydd Defnyddio cyfuniad o rpm / watiau / lefelau / dringfeydd a cherddoriaeth roc i gael ymarfer hwyliog mewn dull rhydd. Mae'n rhaid archebu o flaen llaw.
Cerdded Nordig Grŵp cerdded awyr agored cymdeithasol. Mae cerdded Nordig yn fersiwn corff cyfan o gerdded y gall rhai nad ydynt yn athletwyr, a rhai mwy athletaidd, fwynhau’r gamp fel gweithgaredd corfforol sy'n hyrwyddo iechyd. Caiff y gweithgaredd ei berfformio gyda pholion cerdded wedi eu dylunio’n arbennig, sy’n debyg i bolion sgïo. 
Pilates Ymarferion ymestyn a chryfhau sydd wedi eu dylunio i dynhau, cryfhau, ac ail unioni, heb fagu gormod o gyhyrau. Mae'n rhaid archebu o flaen llaw.
Pilates i Fenywod Beichiog (Cyn Geni) Fe allwch chi ddechrau rhaglen ymarfer corff yn ddiogel yn ystod eich beichiogrwydd ar ôl trafod gyda’ch darparwr gofal iechyd, ond peidiwch â dechrau gweithgaredd caled newydd. Mae croeso i chi ymuno ar ôl 14 wythnos o feichiogrwydd hyd nes y bydd y babi’n cyrraedd.

Mae pob dosbarth yn cynnig ymarferion symud ac ymwybyddiaeth ofalgar defnyddiol wedi’u dylunio i gefnogi’r newidiadau yn eich corff, gydag addasiadau posib i’r ymarferion yn dibynnu ar sut rydych chi’n teimlo ar y diwrnod. Mae pob beichiogrwydd yn unigryw, felly does yna’r fath beth ag ymagwedd sy’n addas i bawb! Byddwch yn mwynhau rhyddhau tensiwn, cyfarfod pobl newydd a rhoi cynnig ar rywfaint o ymarferion ymlacio hefyd.

Dyma rai o’r manteision:
  • Bydd yn eich cadw’n gryf ac yn hyblyg drwy gydol eich beichiogrwydd.
  • Bydd yn cryfhau eich cyhyrau craidd (gan gynnwys llawr y pelfis), sy’n galluogi eich corff i ymdopi’n well â’r straen a achosir gan bwysau cynyddol eich babi.
  • Gall cyhyrau gwan arwain at boen yn eich cefn neu eich pelfis. Drwy ymarfer cyhyrau dyfnaf eich bol sy’n sefydlogi eich cefn a’ch pelfis, fe ddysgwch chi sut i reoli a lleddfu anesmwythder. 
  • Bydd ymarferion priodol i ymestyn eich corff yn llacio tensiwn ac ymarferion sy’n targedu eich ystum a’ch aliniad hefyd yn cynnal eich cydbwysedd.
Mamau a Babanod (Ar ôl Geni) Mae’r dosbarth hwn yn un llai heriol felly mae’n fan gwych i gychwyn ymarfer corff ar ôl i chi eni eich babi. Gan ganolbwyntio ar adfer eich cyhyrau dwfn, gwella eich sefydlogrwydd a chynnal llawr y pelfis, mae’r ymarferion yn annog gwell patrymau symud i’ch helpu chi ailgysylltu â’ch corff ar ôl geni a’ch paratoi ar gyfer bywyd egnïol fel mam newydd. Yn addas o ddeg wythnos ar ôl geni ymlaen, pan fyddwch chi wedi mendio’n llwyr. 

Dyma rai o’r manteision:
  • Tynhau cyhyrau’r bol - targedu a thynhau cyhyrau’r abdomen a’r cyhyrau lletraws. 
  • Gwella ystum y corff - cryfhau’r cyhyrau sy’n cynnal eich asgwrn cefn, sy’n gwella arferion gwael y gallai eich corff fod wedi mynd iddyn nhw yn ystod eich beichiogrwydd, wrth fwydo ar y fron ac wrth godi eich babi.
  • Yn sesiynau cyflawn ar gyfer eich corff a’ch meddwl sy’n ymgorffori technegau anadlu lleddfol, gall y dosbarthiadau difyr hyn fod o fudd i chi reoli straen gofalu am fabi newydd a helpu’ch iechyd meddwl.
Nofio Ffit Mae pob dosbarth yn darparu ffordd amgen i ymarfer, gwella ffitrwydd, cyrraedd targedau a hyfforddi ar gyfer heriau personol mewn amgylchedd gymdeithasol. Mae’n darparu cymysgedd o arferion, dulliau, cyflymder a hyd er mwyn annog ymarfer corff mwy amrywiol a heriol na nofio traddodiadol mewn lonydd. Gyda chymorthyddion hyfforddi a heriau amrywiol, mae rhywbeth ar gyfer pob gallu a diddordeb. Mae ymarferion yn amrywio o 10 hyd i 120 hyd, yn dibynnu ar allu, ac yn para 60 munud. 
Ioga (Ffitrwydd) Targedu hyblygrwydd, sefydlogrwydd a chryfder. Dyma raglen ffitrwydd sy’n cynnwys ymestyn dwfn, cydbwysedd, symudiadau ioga ac arferion ffitrwydd cyfoes sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Yn addas i bob lefel. Mae'n rhaid archebu o flaen llaw.
Ioga (Hatha) Cyfuno asanas (symudiadau ioga) gyda thechnegau anadlu ac ymlacio er mwyn creu iechyd da a bywyd hir.  Bydd symudiadau ioga yn ymarfer pob rhan o’ch corff; ymestyn, tynhau, cryfhau ac ymestyn y cyhyrau a’r gewynnau i ryddhau tensiwn corfforol a meddyliol. Mae'n rhaid archebu o flaen llaw.
Ioga (Dru) Dull gosgeiddig a chryf o ioga yw Ioga Dru, sy’n seiliedig ar symudiadau ysgafn sy’n llifo, anadlu’n benodol a delweddu. Wedi ei selio yn llwyr ar draddodiadau ioga hynafol, mae Dru yn gweithio ar y corff, y meddwl a’r ysbryd - gan wella cryfder a hyblygrwydd, creu sefydlogrwydd yng nghraidd y corff, adeiladu teimlad o bositifrwydd, a phrofiad ymlaciol iawn i chi. Mae'n rhaid archebu o flaen llaw.
Ioga (Pŵer) Mae Ioga pŵer yn gyfres gorfforol egnïol o symudiadau i wella cryfder, cydbwysedd, gwytnwch a hyblygrwydd. Heriwch eich galluoedd gyda’r ioga cyflymach a deinamig hwn er mwyn lleihau straen a hyrwyddo lles meddyliol a chorfforol. Mae'n rhaid archebu o flaen llaw.
Cydbwysedd a Chryfder Mae’r dosbarth hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau canolbwyntio ar ystum corff, datblygu hyder gyda phroblemau cydbwysedd, gwella eu ffordd o gerdded a datblygu cryfder coes yn ddiogel
LesMills BodyPump Mae BODYPUMP yn ymarfer gyda barbwysau ar gyfer unrhyw un sydd eisiau tynhau’r corff a gwella ffitrwydd – yn gyflym. Gan ddefnyddio pwysau ysgafn i gymedrol gyda llawer o ailadrodd, mae BODYPUMP yn gweithio eich corff i gyd. Bydd yn llosgi hyd at 540 o galorïau. Bydd hyfforddwyr yn mynd â chi drwy symudiadau a thechnegau LesMills gan eich annog a gyda cherddoriaeth wych - yn eich helpu i gyrraedd yn uwch nag a allech ar eich pen eich hun! Byddwch yn gadael y dosbarth yn teimlo wedi eich herio ac yn llawn brwdfrydedd, yn barod i ddod yn  ôl am fwy. 
LesMills Grit Mae GRIT yn hyfforddiant ysbeidiol dwysedd uchel sy’n para 30 munud, a gynlluniwyd i wella cryfder a meithrin cyhyrau. Mae tair elfen i’r ymarfer hwn er mwyn gweithio’r holl brif grwpiau o gyhyrau. CRYFDER, PLYO, CARDIO. Mae LES MILLS GRIT yn cyfuno hyfforddiant ysbeidiol dwysedd uchel gyda cherddoriaeth bwerus a hyfforddwyr i'ch ysbrydoli a fydd ar lawr gyda chi, yn eich cymell i wneud mwy i ddod yn heini'n gyflym.
LesMills Barré Fersiwn gyfoes o hyfforddiant bale clasurol yw LES MILLS BARRE; ymarfer 30 munud wedi ei ddylunio i siapio a thynhau cyhyrau ystumiol, adeiladu cryfder yn eich craidd, a’ch galluogi i ddianc o’ch byd arferol. Gan ymgorffori ystumiau bale clasurol gyda cherddoriaeth gyfoes, mae LES MILLS BARRE yn golygu ailadrodd symudiadau cardio a chryfder bychain dwys yn aml, a defnyddio pwysau ysgafn iawn. Os ydych yn chwilio am ffordd wahanol o hyfforddi neu ddull newydd o fynegi eich hunan, byddwch wrth eich bodd â Les MILLS BARRE  Heb y barre traddodiadol i’ch cynnal, bydd y cyhyrau fydd yn cefnogi sefydlogrwydd a chryfder eich corff yn dod yn ganolbwynt. Mae’n edrych yn hardd, ond mae hefyd yn llosgi llwyth o galorïau.
LesMills BodyBalance Ymarfer seiliedig ar ioga ar gyfer unrhyw un sydd am wella eu hyblygrwydd, cryfder craidd ac ymdeimlad o les yw BODYBALANCE.
LesMills RPM Ymarfer beicio brig cardio o'r radd flaenaf yw RPM sy'n defnyddio dringfeydd a sbrintiau efelychiadol i losgi calorïau a gwella ffitrwydd cardio. Mae’n hwyl, bach ei effaith, a gall losgi hyd at 675 o galorïau* y sesiwn.  Gyda cherddoriaeth wych yn pwmpio a'r grŵp yn beicio fel un, byddwch chi'n cyrraedd eich brig cardio dro ar ôl tro ac yna'n ymlacio'n ôl, yn cadw cyflymder gyda’r criw i wella perfformiad personol a hybu ffitrwydd cardio.
LesMills Sprint Mae LES MILLS SPRINT yn sesiwn ymarfer 30 munud o Hyfforddiant Ysbeidiol Dwysedd Uchel (HIIT) gan ddefnyddio beic dan do i gyflawni canlyniadau cyflym.
LesMills The Trip Mae THE TRIP yn brofiad ymarfer y byddwch yn ymgolli’n llwyr ynddo sy’n cyfuno ymarfer beicio 40 munud gyda sawl uchafbwynt gyda thaith drwy fydoedd wedi eu creu’n ddigidol. Gyda'i sgrin maint sinema a system sain, mae THE TRIP yn codi cymhelliant ac allbwn ynni i'r lefel nesaf, gan losgi calorïau go iawn.
LesMills Core Ymarfer hyfforddi craidd 30 munud o hyd yw LES MILLS CORE, sy'n darparu canlyniadau cyflym ar gyfer pob lefel ffitrwydd. Gan ymarfer cyhyrau o amgylch y craidd, mae LES MILLS CORE yn darparu'r ymarfer hanfodol ar gyfer corff cryfach. Mae craidd cryfach yn gwneud eich aelodau yn well ym mhopeth a wnânt - gan gynnwys gweithgareddau ffitrwydd eraill yn eich clwb. Y canlyniad? Gwell canlyniadau, ymgysylltiad a chymhelliant.
LesMills Sh'Bam Ymarfer dawns ffres a hwyliog yw SH’BAM sy’n datblygu ffitrwydd ac yn annog symudiad mynegiannol. Yn gymysg o’r gerddoriaeth barti ddiweddaraf a’r symudiadau dawnsio mwyaf dirdynnol, mae dosbarth SH’BAM yn esgus i’ch aelodau dorri’n rhydd a mwynhau symud.
Ffitrwydd Effaith Metabolig Ymarfer corff dwysedd uchel gyda chyfnodau gorffwys. Gweithiwch hyd eithaf eich gallu CHI, Gorffwyswch, yna cychwynnwch eto. Defnyddir cyfuniad o ymarferion pwysau corff, dymbelau, a chardio. Bydd yr ymarfer hwn yn llosgi calorïau ac yn codi eich cyfradd fetabolaidd ac yn llosgi calorïau am gyfnod hir ar ôl i chi orffen ymarfer. 
Zumba Ffitrwydd Anghofiwch yr ymarfer, ymunwch â’r parti! Mae Zumba yn ffordd wych o gyflyru’ch corff i gerddoriaeth wych a byddwch yn cael cymaint o hwyl fel na fyddwch yn sylwi eich bod yn ymarfer. 
Zumba  Camu Mae Zumba Camu yn rhoi’r un curiadau heintus a symudiadau Salsa chwilboeth â Zumba ond gyda phwyslais ychwanegol ar waelod y corff. Yn tynhau coesau ac yn siapio’r ffolennau mewn symudiadau hawdd i’w dilyn gyda ffrwydrad tanllyd o rythm o dde America. Cymysgwch ddawns, ffitrwydd ac erobeg clos i siapio eich corff a chodi eich ysbryd.



Prisiau

Dosbarthiadau Ymarfer CorffPris
Dosbarth Ymarfer Corff (Oedolion) £7.25
Dosbarth Ymarfer Corff (Consesiwn) £4.35
10 x Dosbarth Ymarfer Corff (Oedolion) £58.00
10 x Dosbarth Ymarfer Corff (Consesiwn) £34.80
end content