Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Telerau archebu Dosbarth Ffitrwydd


Summary (optional)
start content

Diolch am gadw lle yn un o'n dosbarthiadau.

Darllenwch yr wybodaeth ganlynol cyn eich ymweliad:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd eich dosbarth ar amser. Ni chewch fynediad unwaith y bydd y dosbarth wedi cychwyn.
  • Ni fydd ystafelloedd newid ar gael. Bydd toiledau ar gael.
  • Dewch â'ch mat eich hun os oes angen un ar gyfer eich dosbarth. Ni fyddwn yn darparu matiau i aelodau eu defnyddio.
  • Dewch â photel ddŵr lawn gyda chi gan na fydd y ffynhonnau dŵr ar gael.
  • Peidiwch â chario pethau diangen gan na fydd lle i storio bagiau nac allweddi.
  • Os ydych chi wedi cadw lle mewn dosbarth yng Nghanolfan Ddigwyddiadau Eirias, defnyddiwch y maes parcio gyferbyn â’r orsaf dân a dewch i mewn drwy Giât C.

Polisi Mynediad

  • Arhoswch gartref os ydych chi, neu rywun ar eich aelwyd:
  • yn dioddef o dymheredd uchel (38 Gradd Celsius neu uwch)
  • yn pesychu’n barhaus neu’n fyr o wynt
  • wedi colli’r gallu i arogli neu flasu

Mae’n hanfodol fod pob aelod:

  • yn cadw pellter cymdeithasol
  • yn dod wedi gwisgo’n addas ar gyfer y gweithgaredd
  • yn defnyddio diheintydd dwylo’n rheolaidd
  • yn glanhau offer cyn ac ar ôl eu defnyddio
  • yn mynd adref i gael cawod
  • yn dilyn arwyddion a chanllawiau gan staff

Rydym wir yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad ac yn edrych ymlaen at gael eich croesawu!

Tîm Ffit Conwy

end content

Dod o hyd i'ch ysgolion, ysbytai, gwasanaethau cyngor agosaf a mwy