Mae gan yr Ystafell Ffitrwydd gyfanswm o 27 o ddarnau o offer. Mae dewis helaeth o offer naill ai i gryfhau / tynhau’r cyhyrau neu offer a fydd yn gweithio eich calon ac yn eich helpu i losgi braster. Mae gennym dîm cyfeillgar o hyfforddwyr ffitrwydd cymwys iawn a fydd yn eich helpu i sicrhau eich bod yn cael y gorau o'ch ymarfer corff.
Noder:
Cyn defnyddio unrhyw un o’n Hystafelloedd Ffitrwydd bydd gofyn i chi lenwi holiadur parodrwydd cyn gwneud ymarfer corff. Bydd gofyn i chi hefyd gael sesiwn sefydlu lawn gydag aelod o’n tîm ffitrwydd.