Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Telerau archebu Ystafell Ffitrwydd


Summary (optional)
start content

Diolch am archebu sesiwn yn un o’n Hystafelloedd Ffitrwydd.

Darllenwch yr wybodaeth ganlynol cyn eich ymweliad:

  • Bydd sesiynau campfa yn cael eu cyfyngu i 60 munud yn unig. Rydych wedi archebu sesiwn sydd ag amser cychwyn a gorffen penodol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd eich sesiwn ar amser. Ni fyddwn yn caniatáu i aelodau ddod i sesiynau’n gynnar a bydd yr amser gorffen yn aros yr un fath os bydd aelod yn cyrraedd yn hwyr.
  • Ni fydd ystafelloedd newid ar gael. Bydd toiledau ar gael.
  • Dewch â photel ddŵr lawn gyda chi gan na fydd y ffynhonnau dŵr ar gael.
  • Peidiwch â chario pethau diangen gan na fydd lle i storio bagiau nac allweddi.
  • Os ydych chi wedi archebu’r Gampfa Perfformiad yng Nghanolfan Ddigwyddiadau Eirias, nodwch mai dim ond y rac yr ydych wedi ei archebu y cewch ei ddefnyddio. Cewch ddod â phwysau i’w defnyddio yn eich rac, ond ni chewch ddefnyddio’r offer arall.

Polisi Mynediad

  • Arhoswch gartref os ydych chi, neu rywun ar eich aelwyd:
  • yn dioddef o dymheredd uchel (38 Gradd Celsius neu uwch).
  • yn pesychu’n barhaus neu’n fyr o wynt
  • wedi colli’r gallu i arogli neu flasu

Mae’n hanfodol fod pob aelod:

  • yn cadw pellter cymdeithasol
  • yn dod wedi gwisgo’n addas ar gyfer y gweithgaredd
  • yn defnyddio diheintydd dwylo’n rheolaidd
  • yn glanhau offer cyn ac ar ôl eu defnyddio
  • yn mynd adref i gael cawod
  • yn dilyn arwyddion a chanllawiau gan staff.

Rydym wir yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad ac yn edrych ymlaen at gael eich croesawu!

Tîm Ffit Conwy

end content