Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ystafell Ffitrwydd Hwb Yr Hen Ysgol


Summary (optional)
start content

 

 

Mae ein hystafell ffitrwydd yn gampfa 20 gorsaf sydd ag offer hyfforddi Technogym o’r radd flaenaf i wneud ymarfer corff cardiofasgwlaidd a phwysau yn ogystal â phwysau rhydd ac ardal ymestyn.

Dewch i ymarfer yn yr hwb mewn awyrgylch hamddenol ac anffurfiol sy’n anelu at annog pobl i gymryd rhan mewn ymarfer corff.

Cyn i chi ddechrau ymarfer yn ein Hystafell Ffitrwydd bydd gofyn i chi gwblhau rhaglen gynefino lle cewch gynnig rhaglen a diweddariadau rheolaidd i sicrhau’ch bod yn cyrraedd eich nodau. Bydd hyn yn eich galluogi i gael y gorau o’ch ymarferion a bydd hefyd yn sicrhau eich bod yn hyderus wrth ddefnyddio ein holl offer ffitrwydd.

Rydym ar agor ar yr amseroedd canlynol:

DiwrnodAmser
Dydd Llun 9.00am i 8.00pm
Dydd Mawrth 9.00am i 8.00pm
Dydd Mercher 7.00am i 8.00pm
Dydd Iau 9.00am i 8.00pm
Dydd Gwener 7.00am i 5.00pm
Dydd Sadwrn AR GAU
Dydd Sul 9.00am i 1.00pm


Noder:

Cyn defnyddio unrhyw un o’n hystafelloedd ffitrwydd bydd gofyn i chi lenwi holiadur PAR-Q i sicrhau’ch bod yn barod ar gyfer ymarfer corff a bydd gofyn i chi gael sesiwn gynefino lawn yn y gampfa gydag aelod o'n tîm ffitrwydd.

end content