Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

PALS


Summary (optional)
Gweithgareddau ffitrwydd ar gyfer pobl dros 45 oed.
start content

Yma yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Conwy, rydym yn ymroddedig i roi gweithgareddau hamdden i bawb. Bob dydd Mercher o 4:15pm tan 6:00pm rydym yn cynnal sesiynau penodol i bobl dros 45 oed. Mae’n gyfle gwych i ddod yn heini, cyfarfod hen ffrindiau a gwneud rhai newydd hefyd.

Mae'r sesiynau'n cynnwys dosbarthiadau ffitrwydd amrywiol a mynediad i'r ystafell ffitrwydd a llawer mwy.  Os ydych yn mynychu, cewch un gweithgaredd am ddim hefyd yn ystod yr wythnos honno.

Beth y gallwch ei ddisgwyl:

  • Gweithgaredd grŵp i gynhesu’r corff
  • Sesiynau cynefino a rhaglen ffitrwydd yn y gampfa
  • Pilates
  • Ioga
  • Retrobics
  • Ymarfer cylched
  • Dawnsio llinell
  • Badminton
  • Tennis bwrdd
  • Tennis byr
  • Bowls
  • Troelli
  • Pêl raced
  • Cerdded Nordig*
  • Te, coffi a bisgedi

*yn dibynnu ar y tymor a’r tywydd.

end content