Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Hamdden, Chwaraeon ac Iechyd Nofio Cwestiynau Cyffredin Gwersi Nofio

Cwestiynau Cyffredin Gwersi Nofio


Summary (optional)
start content

Pryd fydd gwersi nofio yn dechrau eto?

Rydym yn falch o roi gwybod i chi ein bod yn bwriadu ailddechrau gwersi nofio ddydd Llun 16 Tachwedd yn holl Ganolfannau Hamdden Conwy. Sylwch, i ddechrau byddwn yn cynnig gwersi ar gyfer plant Ton 3 ac uwch, ac eithrio Canolfan Hamdden Colwyn a fydd yn profi Tonnau 1 a 2. Gobeithiwn y bydd yr holl safleoedd yn gallu darparu ystod llawn o wersi nofio o fis Ionawr 2021.

Allaf i ailymuno â’r gwersi?

Gallwch. Rydym wedi ein cyfyngu yn sgil cadw pellter cymdeithasol a chapasiti pyllau ar hyn o bryd, felly mae llefydd yn brin. Os nad oes rhywun wedi cysylltu â chi eisoes, bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi i gadarnhau dyddiadau ac amseroedd gwersi eich plentyn.  

Beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod y gwersi yn ddiogel pan fyddwn yn ailddechrau? 

Rydym eisiau eich sicrhau ein bod yn cymryd yr holl ragofalon angenrheidiol, ac rydym wedi rhoi nifer o fesurau mewn lle i sicrhau bod ein haelodau yn dychwelyd i’r gwersi yn ddiogel. Mae’r newidiadau y byddwch yn eu gweld pan fyddwch yn dychwelyd i’r pwll wedi cael eu gwneud yn unol â’r canllawiau rydym wedi’u derbyn gan y llywodraeth a Nofio Cymru. Bydd gofynion cadw pellter cymdeithasol llym a gweithdrefnau hylendid .

A yw pyllau nofio yn ddiogel?  

Ydyn, yn ôl ymchwil diweddar, mae clorin yn lladd feirws covid-19.

A fydd offer yn cael eu glanhau ac yn ddiogel? 

Bydd. Bydd offer yn cael eu glanhau gyda dŵr pwll clorin rhwng bob gwers a byddwn yn dilyn canllawiau swyddogol trwy gyfyngu ar yr offer y byddwn yn ei ddefnyddio.

Sut ddylwn i fynd i a gadael y cyfleusterau nofio? 

Cyn mynychu eich gwers nofio, byddwn yn eich hysbysu chi am y gofynion penodol ymhob pwll nofio. Gofynnwn i chi lynu at y gofynion drwy’r amser.

Ar gyfer dibenion olrhain, oes angen i mi gofrestru fy mhlentyn yn y dderbynfa?

Na, bydd athrawon yn cadw cofrestr o’r holl nofwyr. Gofynnwn i unrhyw riant/gofalwr sy’n aros ar y safle i wylio eu plentyn, gofrestru eich presenoldeb trwy lawrlwytho ap Covid-19 y GIG a sganio’r cod QR.

A fydd yr ystafelloedd newid ar gael? 

Bydd yr ystafelloedd newid ar agor, fodd bynnag, gofynnwn i nofwyr gyrraedd yn barod ar gyfer eu gwers, er mwyn cyfyngu ar y defnydd o’r ystafelloedd newid ar gyfer newid ar ôl y wers yn unig. Golygai hyn bod angen gwisgo dillad nofio o dan eich dillad er mwyn newid yn hawdd ar ochr y pwll.Gofynnwn hefyd i nofwyr ddefnyddio ein cawodydd i “rinsio yn unig”, ac i newid a gadael yr ystafelloedd newid cyn gynted â phosibl, gan fod angen i’r achubwyr bywyd gael digon o amser i lanhau’r ystafelloedd newid, y cawodydd a’r mannau cyffwrdd ar ôl bob gwers.

Caiff rieni/gofalwyr helpu eu plant i newid ar ôl y gwersi nofio?

Anogwn rieni/gofalwyr o donnau 1-3 ac unrhyw blant sy’n cael anawsterau wrth newid. Er mwyn cadw pellter cymdeithasol o fewn yr ystafelloedd newid – lle bynnag bosibl, dim ond un rhiant/gofalwr ddylai fynd i’r ystafelloedd newid.

Pa newidiadau fydd yn y gwersi?

Yn unol â chanllawiau Nofio Cymru, bydd ein holl athrawon yn addysgu tu allan i’r dŵr. Dyma’r ffordd fwyaf diogel o addysgu, gan olygu y gall athrawon gadw pellter cymdeithasol wrth weld yr holl nofwyr a bod yn ddigon agos os fydd nofiwr angen cymorth. Fel arall, bydd yr holl wersi yn cael eu cynnal yn yr un ffordd.

A fydd y niferoedd ymhob gwers yn llai? 

Mewn rhai amgylchiadau, bydd y nifer o blant ymhob dosbarth yn llai er mwyn i ni allu glynu at ganllawiau pellter cymdeithasol. Bydd ein cymarebau yn dibynnu ar gapasiti bob pwll nofio unigol, ac o fewn canllawiau Nofio Cymru.

Yw oedolion yn dal i allu gwylio’r gwersi o ochr y pwll yn fy lleoliad? 

Bydd cyfyngiadau ar y nifer o bobl y gallwn ganiatáu ar yr eiddo ac wrth ochr y pwll. Mae gan bob lleoliad gapasiti a chanllawiau gwahanol a byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth pan fyddwch yn archebu lle. Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol, peidiwch ag oedi i gysylltu â’ch Canolfan Hamdden leol.

Fydd fy mhlentyn arall i’n cael dod i’r Ganolfan Hamdden gyda mi?

O ddydd Llun 30 Tachwedd fe fyddai’n well gennym ni pe baech chi ond yn dod â’r plentyn sy’n mynd i’r wers nofio, ond rydyn ni’n deall nad yw hynny’n bosib’ o hyd ac y gallech chi orfod dod â’u brawd neu chwaer hefyd. Sylwch fod cyfyngiadau ar faint sy’n gallu bod ar y safle, felly holwch eich Canolfan Hamdden ymlaen llaw.

Ai’r un athro fydd yn dysgu’r wers? 

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw’r un athrawon gyda’r un gwersi. Cydnabyddwn ei bod yn bwysig cynnal yr un arferion, felly ymdrechwn i wneud i hyn ddigwydd. Mae argymhellion i athrawon aros yn yr un ardal ochr y pwll, fodd bynnag teimlwn y gallwn symud ar ochr y pwll a pharhau i gadw pellter cymdeithasol.

Beth sy’n digwydd os fydd fy mhlentyn neu aelod o’r teulu yn profi symptomau covid-19? 

Os ydych chi, eich nofiwr, neu unrhyw aelod o’ch aelwyd neu gyswllt swigen yn dangos unrhyw symptomau, gofynnwn i chi ddilyn argymhellion y llywodraeth yma: www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/

end content